{"id":7604,"date":"2025-02-19T09:16:06","date_gmt":"2025-02-19T09:16:06","guid":{"rendered":"https:\/\/coleg-gwent-wp.test\/news\/inspire-award\/"},"modified":"2026-03-03T16:32:23","modified_gmt":"2026-03-03T16:32:23","slug":"inspire-award","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/www.coleggwent.ac.uk\/cy\/news\/inspire-award","title":{"rendered":"91Ïã½¶ÊÓÆµ yn dathlu cyflawniad tiwtor trwy Wobrau Tiwtor Ysbrydoli!"},"content":{"rendered":"
\n
\n
\n
\n

Llongyfarchiadau, Karen<\/h2>\n

Mae 91Ïã½¶ÊÓÆµ a Dysgu Cymraeg Gwent yn falch o gyhoeddi bod Karen Riste, tiwtor ymroddedig ac ysbrydoledig, wedi derbyn Gwobrau Tiwtor Ysbrydoli!<\/a> yn y categori Cymraeg i Oedolion.<\/p>\n

Mae Gwobrau Tiwtor Ysbrydoli! blynyddol, a drefnwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid o ran cefnogi dysgu gydol oes ar draws Cymru.<\/p>\n

Mae Karen wedi bod yn rhan o gymuned 91Ïã½¶ÊÓÆµ ers 1994 ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hi wedi arddangos ymrwymiad eithriadol i\u2019w myfyrwyr.<\/p>\n

Mae\u2019r tiwtor Dysgu Cymraeg Gwent, a ddysgodd Gymraeg fel oedolyn, yn mynd y tu hwnt i\u2019r disgwyl yn barhaus i sicrhau bod eu dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn ac yn mynd ar \u00f4l eu nodau.<\/p>\n

Cafodd Karen ei henwebu ar gyfer Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! o ganlyniad i\u2019w dulliau addysgu arloesol, ei chefnogaeth ddiflino o\u2019u dysgwyr a\u2019u hymroddiad i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol.<\/p>\n

\"Mae derbyn Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! yn fraint. Mae fy mhrofiad fy hun fel dysgwr Cymraeg yn fy helpu i ragweld yr heriau y mae fy nysgwyr yn eu hwynebu a gallaf esbonio pethau\u2019n glir oherwydd hynny.<\/em><\/p><\/blockquote>\n

Cr\u00ebodd ei gallu i greu adnoddau a deunyddiau newydd argraff da ar y pwyllgor dyfarnu. Roedd hwn yn cynnwys cronfa o adnoddau ychwanegol o\u2019r enw \u2018Siaradwch\u2019 i gefnogi cynnwys cwrslyfrau CBAC y cawsant eu haddasu i gyd-fynd \u00e2\u2019r cwrslyfrau newydd a gynhyrchwyd gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.<\/p>\n

Roedd Karen hefyd yn gyfrifol am greu a pheilota 5 cwrs ar-lein dwys (Cwrs Carlam 1 \u2013 Cwrs Carlam 5), lle gall dysgwyr ddysgu cyfwerth \u00e2 thair blynedd o gwrs Cymraeg mewn un flwyddyn. Addasodd gynnwys cwrslyfrau\u2019r cwricwlwm arferol i greu cwricwlwm addas ar gyfer y cyrsiau hyn.<\/p>\n

I recriwtio mwy o ddysgwyr ar gyfer y cyrsiau Carlam dros yr haf, hefyd helpodd Karen i greu fideo i hyrwyddo ac esbonio\u2019r cyrsiau. Hefyd, cynigiodd amrywiaeth o sesiynau rhagflas er mwyn i ddysgwyr gael blas ar gynnwys y cwrs gan helpu i ehangu mynediad a chreu llwybrau newydd i mewn i ddysgu.<\/p>\n

\"91Ïã½¶ÊÓÆµ<\/p>\n

Gan fyfyrio ar ei chyflawniad, dywedodd Karen: <\/strong>\u00a0\"Rwy\u2019n falch nad yw fy nysgwyr yn ofn gofyn cwestiynau \u2013 mewn gwirionedd, rwy\u2019n eu hannog! Mae gennym ni awyrgylch cyfeillgar a hwyl lle mae pawb yn teimlo\u2019n ddiogel i ofyn cwestiynau ac i roi cynnig ar bethau.\u201d<\/em><\/p>\n

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth 91Ïã½¶ÊÓÆµ: <\/strong>\u201cMae Karen yn ymgorffori rhinweddau addysgwr eithriadol. Mae ei hangerdd am addysgu\u2019r Gymraeg i oedolion a\u2019i hymroddiad i lwyddiant dysgwyr yn ysbrydoledig iawn. Mae\u2019n glir ei bod hi\u2019n berson gofalgar sy\u2019n mynd y tu hwnt i\u2019r disgwyl yn ei r\u00f4l ac rydym yn hynod o falch o gael Karen yn aelod o\u2019n t\u00eem.\u201d<\/em><\/p>\n

Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:<\/strong> \u201cMae cyflwyno Gwobr Tiwtor Ysbrydoli! i Karen Riste yn fraint. Mae ei thaith o ddysgwr Cymraeg i diwtor ysbrydoledig yn dyst i\u2019w hangerdd a\u2019i hymroddiad.<\/em><\/p>\n

\u201cMae ei chariad at yr iaith Gymraeg yn heintus, gan ysgogi dysgwyr a chyd-addysgwyr. Mae hi wedi trawsnewid bywydau llawer o ddysgwyr sy\u2019n oedolion gan rannu ei harbenigedd yn hael trwy fentora tiwtoriaid eraill a datblygu adnoddau arloesol gan gynnwys y \u2018Cwrs Carlam\u2019. Mae ymrwymiad Karen i greu amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol yn ei gwneud yn dderbynnydd haeddiannol iawn o\u2019r wobr hon.\u201d<\/em><\/p>\n

Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae\u2019r cyrsiau hyn yn rhaglenni sy\u2019n cyfuno astudio yn yr ystafell ddosbarth, astudio ar-lein neu astudio mewn dosbarthiadau nos wythnosol a dysgu dwys.<\/p>\n

Am fwy o wybdaeth am gyrsiau Cymraeg i Oedolion yn ardal Gwent, cysylltwch \u00e2 welsh@coleggwent.ac.uk<\/a>\u00a0 www.dysgucymraeg.cymru\/gwent<\/a><\/p>\n