Active IQ Tystysgrif mewn Hyfforddiant Personol Uwch Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon a Ffitrwydd
Lefel
4
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£195.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Dydd Mawrth a Dydd Iau
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
15:00
Hyd
15 wythnos
Gofynion Mynediad
Rhaid i ddysgwyr feddu ar Ddiploma Lefel 3 mewn Hyfforddiant Personol (neu gyfwerth).
Yn gryno
Mae maes hyfforddiant personol ac anghenion hyfforddwyr personol proffesiynol modern yn datblygu'n gyflym yn unol ag anghenion a nodau eang y cleientiaid y maent yn eu gwasanaethu. O ganlyniad, nid yw'r diwydiant erioed wedi bod yn fwy cystadleuol. Mae hyfforddwyr personol llwyddiannus yn cael eu gyrru gan ganlyniadau ac yn gwahaniaethu'n hyderus y gwasanaethau a gynigir ganddynt i ddarparu gwasanaeth moesegol a chynnal busnes hynod lwyddiannus. Er mwyn ysgogi'r llwyddiant hwn mae dull mwy gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o raglennu, hyfforddi, monitro a rheoli cleientiaid sy'n trosi i gyfraddau cadw cleientiaid yn well yn ogystal â denu cleientiaid newydd.
Ìý
Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi’r gwybodaeth a sgiliau i ddysgwyr ddeall eu cleientiaid yn llawn, defnyddio dull rhaglennu sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu busnes hyfforddi personol llwyddiannus a chynaliadwy.
Ìý
Mae maes hyfforddiant personol ac anghenion hyfforddwyr personol proffesiynol modern yn datblygu'n gyflym yn unol ag anghenion a nodau eang y cleientiaid y maent yn eu gwasanaethu. O ganlyniad, nid yw'r diwydiant erioed wedi bod yn fwy cystadleuol. Mae hyfforddwyr personol hynod lwyddiannus yn cael eu gyrru gan ganlyniadau ac yn gwahaniaethu'n hyderus y gwasanaethau a gynigir ganddynt i ddarparu gwasanaeth moesegol a chynnal busnes hynod lwyddiannus. Er mwyn ysgogi'r llwyddiant hwn mae dull mwy gwyddonol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o raglennu, hyfforddi, monitro a rheoli cleientiaid sy'n trosi i gyfraddau cadw cleientiaid yn well yn ogystal â denu cleientiaid newydd.Ìý
Dyma'r cwrs i chi os...
...Rydych yn teimlo fel chi moen ddatblygu eich sgiliau fel hyfforddwr personol ymhellach a darparu gwasanaeth mwy pwrpasol i'ch cleientiaid.
...Rydych am ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth fel ymarferydd hyfforddiant personol.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae dwy uned orfodol:
- Technegau cymhwysol i gefnogi, gwella a rheoli taith y cleient
- Symud cleientiaid ymlaen tuag at gyflawni nodau'n llwyddiannus
Bydd disgwyl i chi gyflawni lefel uchel o bresenoldeb a phrydlondeb fel rhan o'r cymhwyster hwn. Bydd angen i chi hefyd ddangos ymgysylltiad llawn ag elfennau ymarferol a damcaniaethol y cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r cymhwyster hwn yn darparu dilyniant i’r cwrs:
- Lefel 4 Tystysgrif mewn Cryfhau a Chyflyru.
Efallai y byddech chi hefyd â diddordeb mewn astudio ar gwrs Tylino Chwaraeon Lefel 3 a Lefel 4 i gyd-fynd â’r cymhwyster hwn.
Mae’r cwrs yn gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb (ar y campws) a dysgu o bell ar-lein. Cynhelir y dysgu wyneb yn wyneb ar ddyddiau Iau o 9.30am tan 3pm.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UPCE3577AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr