91Ïã½¶ÊÓÆµ

En

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydyn ni’n un. Ni yw 91Ïã½¶ÊÓÆµ

Diverse students of 91Ïã½¶ÊÓÆµ
play

Cefnogi Amrywiaeth a Chynhwysiant

91Ïã½¶ÊÓÆµ yw ble mae pawb yn perthyn. Rydym ni’n falch o fod yn goleg croesawgar a chynhwysol ble gallwch fod yn chi’ch hun, teimlo’n ddiogel a chael eich parchu – pwy bynnag ydych chi.Ìý

Rydym wedi ein hymrwymo i greu amgylchedd positif a phenagored ble gall dysgwyr ac aelodau staff o gefndiroedd amrywiol ffynnu.Ìý

I ddarllen ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol diweddaraf, ewch i’n tudalen Llywodraethiant.

Ein hymrwymiad i gynhwysedd:

  • Hyrwyddwn gynhwysedd a sicrhawn y gall pawb fod eu hunain tra yn y coleg.Ìý
  • Ein campysau yw gofodau lle mae caredigrwydd, tegwch a dealltwriaeth wrth wraidd popeth a wnawn.Ìý
  • Mae amrywiaeth yn cyfoethogi ein cymuned ac yn sbarduno syniadau ffres a ffyrdd newydd ac arloesol o feddwl.Ìý
  • Gweithiwn yn ddi-baid i chwalu rhwystrau a meithrin cymuned sy’n adlewyrchu’r byd sydd o’n cwmpas.Ìý

Ein Siarter Amrywiaeth:
DIM BEIRNIADAETH;GWERTHFAWROGI SAFBWYNTIAU ERAILL;DERBYN NAD OES CYWIR NAC ANGHYWIR;PARCH AT BAWB;MAE YMDDYGIAD YN BWYSIG

Er mwyn cefnogi’r Coleg i fod yn gymuned barchus, mae grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd wedi cael ei greu. Gwyliwch i ddarganfod pam eu bod nhw mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

play

Rhaid i ni anfon neges o gefnogaeth at ein cydweithwyr a dysgwyr mewn cymunedau o leiafrifoedd ethnig a rhaid i ni barhau i ymdrechu i wneud ein Coleg yn groesawgar i bawb, waeth beth fo’u cefndir.

Nicola Gamlin
Pennaeth