91Ïã½¶ÊÓÆµ

En

Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
23 Medi 2025

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed fod â lleiafswm o 3 TGAU (gradd C neu uwch) sy'n cynnwys Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg neu bwnc Gwyddonol. Yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 fel Diploma Cenedlaethol BTEC neu Lefelau A sy'n gyfwerth â neu'n uwch na 48 pwynt UCAS. Cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator Croesewir myfyrwyr aeddfed (21+ oed), a bydd ceisiadau'n cael eu trin yn unigol. Er nad oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc ac awydd ymroddedig i ddysgu yn hanfodol.

Yn gryno

Mae’r radd sylfaen hon mewn ffotograffiaeth yn cyfuno sgiliau ffotograffiaeth greadigol ag astudiaeth academaidd, fel eich bod yn gallu cyfleu eich creadigrwydd a’ch syniadau drwy ffotograffiaeth.

Ìý

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn greadigol

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn ffotograffiaeth

... Ydych o ddifrif am yrfa ym maes ffotograffiaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn y radd sylfaen hon mewn ffotograffiaeth, cewch edrych ar arbenigedd mewn ffotograffiaeth a datblygu arbenigedd a fydd yn rhoi modd i chi droi eich brwdfrydedd a’ch creadigedd yn yrfa. Byddwch yn datblygu sgiliau ffotograffiaeth ddigidol a ffilm broffesiynol ochr yn ochr â gwybodaeth am hanes ac ymarfer ffotograffig.

Mae’r cwrs yn golygu astudio am ddwy flynedd ar gampws Crosskeys, ac yn arwain at gymhwyster FDa Lefel 5. Mae’r cwrs hefyd yn gadael i chi symud ymlaen i flwyddyn ‘ychwanegol’ i gwblhau eich trydedd flwyddyn, ac ennill Gradd BA Anrhydedd lawn.

Mae’r Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yn cynnwys popeth o ffotograffiaeth fasnachol mewn meysydd fel portreadau, priodasau, ffasiwn, golygyddol neu hysbysebu, hyd at gelfyddyd gain, celf gysyniadol a chelf arddangosfa. Bydd y cwrs cyffrous ac arloesol hwn yn datblygu eich gyrfa ffotograffiaeth, ac yn rhoi rhwydd hynt i chi fod y ffotograffydd rydych chi wastad wedi dychmygu cael bod.

Yn y cwrs ffotograffiaeth hwn, gallwch ddatblygu eich creadigedd a gweithio tuag at faes arbenigol. Byddwch yn datblygu sgiliau ffotograffiaeth ddigidol a thechnegau ffilm traddodiadol, ac mewn cyfryngau eraill hefyd fel delwedd symudol, sain, dylunio’r we, SEO, prosesau amgen, datblygu portffolio ac arddangosfa. Mae’r radd sylfaen hon mewn ffotograffiaeth yn un ymarferol gan mwyaf, ond mae’n datblygu dealltwriaeth o hanes ffotograffiaeth hefyd, er mwyn gallu gwerthfawrogi cyd-destun ffotograffiaeth yn well.

Mae’r ochr ymarferol yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o weithdai, darlithoedd aÌýthiwtorialau, yn ogystal â sgrinio, ymweld ag orielau, arddangosiadau, teithiau maes a thaith ryngwladol. Ar y cwrs, rydym yn falch o’n cysylltiadau â diwydiant, ac yn darparu llu o gyfleoedd i’n myfyrwyr weithio gyda phobl broffesiynol creadigol drwy brosiectau cleientiaid. Mae gennym bartneriaethau ers tro efo Ffotogallery, Porsche Automotive, RSPB a llawer o bartneriaethau eraill nodedig sy’n cydweithio â ni.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn cwblhau’r modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1

  • Hanfodion Ffotograffig
  • Persbectifau Ffotograffig
  • Dealltwriaeth Rhyngddisgyblaethol
  • Egwyddorion Ymchwil

Blwyddyn 2

  • Ymarfer Ffotograffig Creadigol
  • Cynnig Ymchwil
  • Heriau’r 21ain Ganrif

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Drwy gyfres o brosiectau ymarferol a heriol, byddwch yn gwella eich gwybodaeth o dechnegau ffotograffig. Bydd pob modiwl ymarferol yn datblygu eich sgiliau technegol ac yn gosod aseiniadau cyffrous i ddatblygu eich creadigedd a gwella eich sgiliau efo’r camera.

Ar y cwrs, byddwch chi’n astudio ac yn ymchwilio i ffotograffiaeth ac yn datblygu sgiliau technegol ac artistig heb eu hail, gan ddefnyddio cyfleusterau pwrpasol. Bydd y rhain yn cynnwys ystafell dywyll wlyb draddodiadol, stiwdio broffesiynol, cyfrifiaduron o safon ddiwydiannol, meddalwedd trin lluniau, cymwysiadau ffilm, fideo a rhyngrwyd.

Byddwch yn edrych ar ffotograffiaeth lonydd a byw, yn arddangos eich gwaith, ac yn cynhyrchu portffolio gwaith cyfoethog, traethodau a llyfrau braslunio ymchwil.

Ìý

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnoch am yrfa mewn ffotograffiaeth, neu gallwch gwblhau’r drydedd flwyddyn i ennill Gradd BA (Anrh) lawn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd disgwyl i chi brynu camera digidol SLR o ansawdd da efo cerdyn SD. Ar hyd y ddwy flynedd, bydd angen i chi ddarparu deunyddiau arddangos, fel llyfrau braslunio a phortffolios. Bydd angen i chi hefyd brynu eich printiau eich hun.

Ìý

Efallai gofynnir i’r ymgeiswyr ddod i gyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno gwaith portffolio yn rhan o’r broses ddethol.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn breinio’r cwrs.

Ìý

Cod y sefydliad yw C20

Cod y campws yw 7

Camera DSLR, £300+. Gorfodol - N

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth?

CFDG0014AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 23 Medi 2025

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr