Microsoft Certified Gweinydd Cronfeydd Data - Cydymaith

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Ardystiedig gan Microsoft: Gweinydd Cronfeydd Data - Cydymaith yw ardystiad lefel canol sydd yn dilysu eich gallu i reoli a chynnal datrysiadau cronfa data cwmwl-frodorol (cloud-native) a hybrid gan ddefnyddio gwasanaethau Microsoft Azure SQL ac SQL Server.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
Unrhyw un 19 oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... gweithwyr proffesiynol sy'n rheoli a chynnal datrysiadau SQL-seiliedig mewn amgylcheddau cwmwl, ar-y-safle neu hybrid.
Cynnwys y cwrs
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno ar ffurf ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 4 Diwrnod
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i:
- Gynllunio a gweithredu adnoddau platfform data
- Rhoi amgylchedd diogel ar waith
- Monitro ac optimeiddio adnoddau gweithredol
- Optimeiddio perfformiad ymholi
- Awtomeiddio tasgau
- Cynllunio a gweithredu argaeledd uchel ac adferiad wedi digwyddiad difrifol
Gofynion Mynediad
Dylai mynychwyr feddu ar brofiad proffesiynol a gwybodaeth dechnegol sy'n gyfwerth a’r cymwysterau Azure Fundamentals ac Azure Data Fundamentals, cynefindra sylfaenol o blatfform Azure a sgiliau ymholi T-SQL sylfaenol.
Bydd angen i chi fod â mynediad at y rhyngrwyd a chyfrifiadur Windows gyda gwegamera/microffon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen PLA yw darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol o ansawdd uchel i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu haddysg.
Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs a ariennir gan PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i chi.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd perthnasol
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs
MPLA0205AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.