2 Mehefin 2025
Pan ymunodd Megan â 91Ïã½¶ÊÓÆµ am y tro cyntaf yn 16 oed, nid oedd hi’n sicr beth oedd gan y dyfodol i’w chynnig. Fel llawer o bobl ifanc, nid oedd ganddi lwybr gyrfa clir mewn golwg, ond roedd hi’n gwybod ei bod yn dwli ar gelf. Fe ddaeth y llygedyn hwnnw o greadigrwydd yn rhywbeth anhygoel.Ìý
Heddiw, Megan yw perchennog balch The Face Boss, sef stiwdio colur a brand ffyniannus sydd wedi ennill dilynwyr ffyddlon, ei chymryd hi ar draws y byd, ac ennill cyfle iddi weithio â phersonoliaethau teledu, priodferched a charwyr harddwch ym mhob man.ÌýÌýÌý
Mae Meg hyd yn oed wedi lansio cyfres o gynhyrchion blew amrant, ac mae’n darparu cyrsiau hyfforddi i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid colur.Ìý
Ond sut wnaeth popeth ddigwydd? Gyda chwrs mewn Colur Theatrig yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.Ìý
Meddai Meg: “Roedd y cwrs yn wych achos fe wnaeth wir ddod â fi allan o fy mharth cysur a chyflwyno fi i fy nghariad tuag at baentio corff.â€ÌýÌý
“Helpodd fi i fagu fy hyder a darparodd y sgiliau a’r cysylltiadau i fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y maes colur.â€Ìý
O ddysgu am sylfeini effeithiau arbennig a chelfyddydwaith theatrig i archwilio ei hochr greadigol, fe ddarparodd cyfnod Meg yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ ofod iddi ddarganfod ei hangerdd – a’r anogaeth i fynd ar ei ôl. Roedd y gefnogaeth a gafodd gan ei thiwtoriaid wedi cael effaith barhaol arni hefyd.Ìý
“Roedd fy nhiwtoriaid yn anhygoel, ac rydw i dal mewn cysylltiad â nhw heddiw. Roedd fy mhrofiad yn y coleg yn un gwych.â€Ìý
Ar ôl y coleg, enillodd Meg swydd gyda MAC Cosmetics, gan ymuno â’u tîm paentio corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau ledled y DU. Fe wnaeth y profiad hwnnw helpu iddi feithrin ei henw da, mireinio ei sgiliau, ac yn y pen draw, cymryd y naid a dechrau ei busnes ei hun.Ìý
Mae hi bellach yn artist colur hunangyflogedig, ac mae ei dyddiau’n llawn archebion ar gyfer priodasau, gweithdai creadigol a’r hyblygrwydd i allu teithio.Ìý
“Rwy’n dwli ar bob agwedd ar beth rwy’n gwneud. Mae perchen fy musnes fy hun yn golygu bod gen i reolaeth dros fy nyddiadur. Roeddwn i hyd yn oed yn gallu teithio am bedwar mis-mae’n freuddwyd wedi’i gwireddu.â€Ìý
Beth yw canllawiau Megan ar gyfer pobl greadigol ar gyfer y dyfodol?Ìý
“Byswn i’n annog unrhyw un i ddod i 91Ïã½¶ÊÓÆµ. Gwnaeth e helpu fi i fagu fy hyder a chymryd fy ngyrfa i’r lefel nesa.â€Ìý
Caru colur, celf neu bopeth creadigol?Ìý
Mae Cymru yn llawn cyfleoedd yn y meysydd creadigol. O gelfyddydwaith colur i ddylunio meddalwedd ac adrodd straeon digidol, mae yna filoedd o fusnesau creadigol dim ond yn Ne Cymru, hyd yn oed.Ìý
Os oes gennych chi angerdd am harddwch neu am archwilio gyrfa greadigol fel Megan, yna 91Ïã½¶ÊÓÆµ yw’r lle perffaith i ddechrau arni. Bydd ein tiwtoriaid yn eich cefnogi chi ar bob cam o’r ffordd, gan helpu chi i feithrin y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnoch.Ìý
P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn colur theatraidd, effeithiau arbennig neu dim ond yn dwli ar helpu pobl i deimlo ar eu gorau, yn union fel Megan, byddwch yn dod o hyd i’r cwrs perffaith i chi allu rhyddhau eich creadigrwydd.Ìý
Darganfyddwch ein cyrsiau trin Gwallt a Therapi Harddwch yma.Ìý
Mae eich gyrfa greadigol yn dechrau nawr.Ìý