91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Iaith a Llenyddiaeth Saesneg UG Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Lefelau A
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Gyda chyfuniad bywiog o waith ymchwil ac ysgrifenedig ymarferol, mae'r gwaith hwn yn ymdrin ag ystod o astudiaethau Saesneg.

... Ydych wrth eich bodd yn darllen ac ysgrifennu.
... Ydych yn mwynhau dadansoddi a thrafod llenyddiaeth.
... Hoffwch ddealltwriaeth ddyfnach o'r byd ysgrifennu.

Mae Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Lefel U yn bwnc dwys ond pleserus, sy'n caniatáu lle i drafod a datblygu eich syniadau eich hun. Bydd y pwnc hwn yn apelio atoch chi os ydych yn mwynhau darllen llyfrau a'u trafod gydag eraill, ysgrifennu bob mathau a dadansoddi testunau ffuglen a ffeithiol yn fanwl.

Byddwch yn astudio dwy uned ar Lefel UG a thair uned ar Lefel U. Trwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu fframweithiau astudiaeth iaith a'r sgiliau sydd eu hangen i ddarllen yn ddadansoddol-fanwl. Byddwch yn dysgu i ddadansoddi a chymharu amrywiaeth o destunau ysgrifenedig ac ar lafar ac ysgrifennu rhai darnau creadigol.

Ar Lefel UG, byddwch yn astudio antholeg o farddoniaeth cyn 1914, Down and Out in Paris and London gan George Orwell (testun anllenyddol) ac Amadeus (drama) Peter Shaffer. Ar Lefel A, byddwch yn astudio Much Ado About Nothing Shakespeare (drama), The Handmaid's Tale (rhyddiaith) gan Margaret Atwood a byddwch yn cynhyrchu ffolder gwaith cwrs o 2,500-3,500 o eiriau, wedi'i ysbrydoli gan genre llenyddol dewisol - llenyddiaeth Gothig.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Bydd gwaith cartref rheolaidd, gwaith dosbarth, marciau profion a graddau arholiadau ffug yn eich galluogi chi i fesur eich cynnydd. Ar Lefel UG, cewch eich asesu'n ffurfiol drwy ddau arholiad yn yr haf a thrwy waith cwrs a dau arholiad yn yr haf ar Lefel U. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Lefel UG
  • Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Lefel U
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Gradd B mewn Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg.

Bydd angen i chi allu cymell eich hun, gweithio'n galed, dangos brwdfrydedd tuag at lenyddiaeth a mwynhau darllen ac ysgrifennu yn eich amser eich hun.

Mae Saesneg yn gymhwyster uchel ei barch a all fod yn fan cychwyn i nifer o yrfaoedd. Mae'n arbennig o ddefnyddiol i unrhyw un sy'n bwriadu mynd i'r maes Addysgu, y Gyfraith, Newyddiaduraeth, Rheolaeth o bob math a Gwyddor Gymdeithasol.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a gradd B mewn Saesneg Iaith neu Lenyddiaeth.

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Tutor and student sharing exam results

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFAS0116A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFAS0116A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFAS0116A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy