91Ïã½¶ÊÓÆµ

Mathemateg a Saesneg

Generic - Maths and English

Dyma le i chi ddechrau o’r newyd

P'un a ydych chi am fynd i'r brifysgol, ennill eich swydd ddelfrydol neu deimlo'n fwy hyderus ym mywyd bob dydd, gall sgiliau mathemateg a Saesneg cryf eich tywys yn bell.

Os na wnaethoch ennill Gradd C neu'n uwch mewn TGAU Mathemateg neu Saesneg, peidiwch â phoeni. Yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ, byddwn yn eich helpu i wella eich sgiliau ac ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch, ochr yn ochr â'ch prif gwrs.

Pam mae hyn yn bwysig

Gall gwella eich mathemateg a Saesneg eich helpu drwy::Ìý

  • Ddyrchafu eich rhagolygon swydd
  • Cyfleu cyfleoedd newydd ar gyfer eich gyrfa ac astudiaethau
  • Meithrin eich hyder
  • O bosib, ennill mwy yn y pen draw

Yr hyn y byddwch yn ei astudioÌý

Gan ddibynnu ar eich canlyniadau yn y gorffennol, cewch eich gosod ar y lefel sy'n addas i chi. Gallai hon gynnwys:Ìý

  • Bagloriaeth Sgiliau Cymru UwchÌý
  • Lefel 3 Dysgu UwchÌý
  • Ailsefyll TGAU Saesneg Iaith neu FathemategÌý
  • Sgiliau Hanfodol Cymru: Cymhwyso Rhif a/neu GyfathrebuÌýÌý

Yr hyn a edrychwn arnoÌý

sydd mwyaf addas i chi.Ìý

Dyma ganllaw sydyn:Ìý

Gradd C neu'n uwch? Byddwch yn dilyn Sgiliau Uwch neu Dysgu UwchÌý

Gradd D? Byddwch yn ailsefyll eich TGAU neu'n dilyn Sgiliau HanfodolÌý

Gradd E neu'n is? Byddwch yn meithrin eich sgiliau drwy Sgiliau Hanfodol ar Lefel 1 neu Lefel MynediadÌý

Saesneg fel ail iaith? Byddwch yn sefyll asesiad i ddod o hyd i'r lefel sydd mwyaf addas i chiÌý

Addysg gartref neu’n 19+ oed? Bydd angen i chi sefyll arholiad mynediad cyn dechrau dilyn cwrs TGAUÌý

Student smiling

Dyma pam fod Mathemateg a Saesneg mor bwysig

Mathemateg Saesneg
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir Sicrhau nad ydych yn tanfwydo neu’n gorfwydo anifeiliaid Deall gwybodaeth am driniaethau i anifeiliaid
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth I fesur ffabrigau ym maes dylunio ffasiwn i sicrhau bod dillad yn ffitio I gyflwyno eich gwaith yn llwyddiannus i gleientiaid
Moduro Darparu amcangyfrifon cost cywir ar gyfer atgyweiriadau neu wasanaethau cynnal a chadw Cyfathrebu â chwsmeriaid i esbonio materion technegol ac opsiynau atgyweirio
Busnes a Chyfrifeg I wneud yn siŵr nad ydych yn gwario mwy na’ch cyllideb I gyfathrebu’n effeithiol â staff a thrafod gyda chleientiaid
Arlwyo a Lletygarwch I gyfrifo cynhwysion rysáit a gweithio allan pa mor hir y mae angen i chi ei goginio I ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol a chael archebion yn gywir
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol Rhoi fformiwlâu mewn taenlenni Cofnodi data pwysig yn gywir
Adeiladu Defnyddio ffracsiynau i roi cymalau yn eu lle gyda’r un pellter rhyngddynt ar hyd wal stydiau I ddarparu dyfynbrisiau cywir a phroffesiynol i ddarpar gleientiaid
Peirianneg Mesur deunyddiau ac onglau i sicrhau bod dyluniadau yn cael eu gwneud yn gywir Deall rheoliadau iechyd a diogelwch i wneud yn siŵr bod mannau gweithio yn ddiogel
Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol Gweithio allan y cymarebau cywir ar gyfer lliwio gwallt neu arlliwio aeliau Cyfathrebu â chleientiaid a threfnu apwyntiadau
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Gwneud yn siŵr eich bod yn sicrhau’r gymhareb gywir ar gyfer y nifer o blant neu gleifion i ofalwyr, gan helpu pawb i gadw’n ddiogel Rheoli cofnodion cleifion neu gleientiaid
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio I gyfrifo amseroedd llwyfan Dysgu sgriptiau ar gyfer clyweliadau
Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfrifo cyflymder cerbydau sy’n rhan o ddamweiniau trwy ddefnyddio marciau sgidio, pellteroedd a mesuriadau eraill Llunio adroddiadau gan roi manylion am ddigwyddiadau ac ymchwiliadau
Gwyddoniaeth I ddadansoddi data yn gywir I gadw cofnodion cywir o brosiectau ac i ysgrifennu adroddiadau
Chwaraeon a Ffitrwydd Cyfrifo sgoriau a faint o bwyntiau sydd eu hangen arnoch i ennill Cyfathrebu ag aelodau tîm a chytuno ar dactegau
Teithio a Thwristiaeth Cyfrifo cyfraddau cyfenwid arian i daro’r fargen orau Cymchwilio i gyrchfannau i roi cyngor i gleientiaid
Two students holding book in Usk library

Efallai eich bod yn gweld Mathemateg a Saesneg yn heriol, neu efallai nad ydynt ymhlith eich hoff bynciau, ond maent mor bwysig o hyd i’ch dyfodol, felly daliwch ati! Gofynnwch am gymorth a pheidiwch â’i cholli hi oherwydd bydd y pynciau yn agor drysau i chi ar gyfer astudio a gyrfa yn y dyfodol.

Sarah Watkins – Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr y DU ym Mhrifysgol De Cymru
Student graduating

Ni waeth pa lwybr fyddwch yn ei ddewis – Prentisiaeth, cyflogaeth neu addysg bellach/uwch – mae gallu arddangos sgiliau Saesneg a Mathemateg gyda chymhwyster cydnabyddedig yn hynod bwysig ac yn eich helpu i fynd ymlaen mewn bywyd.

Ruth Meighan – Swyddog Recriwtio Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd
Student Studying

Efallai fod rhaid i chi astudio’n galed iawn i gyflawni’r graddau C hollbwysig hyn mewn Mathemateg a Saesneg, ond bydd werth yr holl ymdrech. Unwaith y bydd gennych y cymwysterau hyn, bydd gennych fwy o gyfleoedd yn y dyfodol.

Claire Roberts – Rheolwr Addysg a'r Gymuned yn Dŵr Cymru Welsh Water
Studying in library

Byddwch yn cau drws drwy beidio â gwneud TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg a bydd adeg yn eich bywyd pan fyddwch yn ymgeisio am swydd ac yn canfod y gall peidio â meddu ar y cymwysterau hyn eich dal yn ôl.

Kate Rees – Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Lovell

Dw i’n defnyddio Mathemateg a Saesneg bob dydd heb sylweddoli – ar y ffôn ac wrth ddelio â chwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd. Ni ddylai pobl ifanc danseilio pwysigrwydd y pynciau hyn. Efallai nad ydych yn gweithio mewn amgylchedd swyddfa – efallai eich bod yn fecanydd neu’n trin gwallt – ond mae’r ddau yn gofyn am sgiliau rhyngweithio â phobl a chraffter busnes sy’n dibynnu ar y pynciau pwysig hyn.

Shane Jay – Rheolwr Technegol Rhanbarthol, Lovell