Oedolion a Gweithwyr Proffesiynol

Cyflawnwch eich nodau yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ
Ydych chi am newid gyrfa, ennill dyrchafiad, dychwelyd i'r gwaith, dechrau eich busnes eich hun neu ddatblygu sgil newydd? Beth bynnag eich nodau, gallwch gyflawni rhywbeth anhygoel gyda'n cyrsiau dysgu i oedolion, sy'n cynnwys cyrsiau newid gyrfa, Mynediad i Addysg Uwch a Phrentisiaethau.
Gyda channoedd o gyrsiau i ddewis o'u plith, bob blwyddyn rydym yn helpu miloedd o ddysgwyr i gymryd eu cam nesaf - p'un a yw hynny'n sicrhau lle yn y brifysgol drwy gwrs Addysg Uwch, ennill swydd ddelfrydol, cyflawni cymhwyster proffesiynol neu dim ond dysgu er boddhad personol.

Dysgu hyblyg i gyd-fynd â'ch bywyd
Rydym yn deall pa mor brysur yw bywyd, a dyna’r rheswm y cynlluniwyd ein hystod o gyrsiau i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau. P'un a yw'n ddiffyg amser, cyfyngiadau ariannol, materion gofal plant neu nerfusrwydd - rydym ni wrth law i'ch cefnogi chi.
Gyda phum campws a leolir ledled y rhanbarth, rydym yn cynnig cyfleoedd hygyrch ar gyfer dysgwyr yn ein cymunedau lleol, gan gynnwys Cyrsiau Nos a Chyrsiau Rhan-amser.
Dod o hyd i’r cwrs iawn i chi
Mae astudio rhan-amser yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ yn golygu dysgu yng ngholeg gorau Cymru o ran dewis. Archwiliwch ein hamrywiaeth eang o feysydd pwnc i ddod o hyd i gyrsiau sy'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau. Mae rhai cyrsiau ond ar gael ar gampysau penodol, felly cofiwch wirio'r manylion ar bob tudalen gwrs.
Ariannu'ch dyfodol
Ydych chi'n poeni am ffioedd cwrs? Mae yna sawl ffordd y gallwch gael cymorth gyda chostau astudio, gyda nifer o wahanol grantiau ar gael gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, yn ogystal â chyrsiau am ddim ar gyfer oedolion. Mae opsiynau yn cynnwys:
- Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) (AB)
- Cronfa Ariannol wrth Gefn (Financial Contingency Fund - FCF)
- Cronfa wrth gefn Barclays Family Action
- Cyllid ReAct+
- Cronfa Cymorth Dewisol (Discretionary Assistance Fund - DAF) Cymru
- Gwobr Datblygu Ymddiriedolaeth y Brenin (Ymddiriedolaeth y Tywysog gynt)
- Cyfrifon Dysgu Personol
- Bwrsariaethau Addusg Uwch

Hidden section title
Oriel














