91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 2

OCR Diploma Technegol Caergrawnt mewn Celf a Dylunio Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
2

Yn gryno

Byddwch chi’n astudio ystod eang o unedau, megis gwneud printiau, serameg, cyfrifiaduron, delweddu digidol, ffotograffiaeth, astudiaethau gweledol, ffasiwn a thecstilau, astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol, darlunio, arlunio, dylunio 3D a dylunio graffeg.

... Ydych eisiau adeiladu sgiliau a hyder mewn ystod o ddisgyblaethau

... Rydych chi’n dymuno dilyn gyrfa ym meysydd celf a dylunio.

... Oes gennych ychydig o brofiad ym maes celf ond hoffech ei archwilio fwy

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu sgiliau a magu hyder ar draws ystod o ddisgyblaethau gan obeithio dilyn gyrfa ym maes celf a dylunio yn nes ymlaen. Os oes eisoes gennych chi rywfaint o brofiad ond nid ydych wedi cael cyfle i archwilio eich ochr greadigol yn llawn, bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i wneud hynny. Mae’n rhagflas go iawn ar nifer o agweddau ar gelf a dylunio ac mae’n cynnwys prosiectau cyffrous a heriol. Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau ym meysydd cyfathrebu, technoleg gwybodaeth, defnyddio rhifau, cynllunio a gwaith tîm. Cewch eich asesu drwy waith cwrs sy’n seiliedig ar dasgau ymarferol a chaiff eich gwaith ei gymedroli’n allanol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill: Cymhwyster Lefel 2 mewn Celf a Dylunio Gweithgareddau Sgiliau Mathemateg a Saesneg Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau ym meysydd cyfathrebu, technoleg gwybodaeth, defnyddio rhifau, cynllunio a gwaith tîm.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs sy’n seiliedig ar dasgau ymarferol a chaiff eich gwaith ei gymedroli’n allanol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:

I astudio ar y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys Celf neu bwnc creadigol cysylltiedig a, naill ai Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol priodol gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, yn ogystal â pharch at bobl eraill, brwdfrydedd am y pwnc, hunan-gymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Diploma Lefel 3 mewn Celf a Dylunio a’r Cyfryngau Rhyngweithiol.

O leiaf 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys Celf neu bwnc creadigol cysylltiedig a, naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol yn y maes galwedigaethol priodol gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Bydd angen i chi brynu llyfrau braslunio, deunyddiau peintio ac arlunio. Efallai y bydd angen talu ffioedd ar gyfer ymweliadau â’r oriel a digwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.

Art-and-Design

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFBD0063AA
Amser Dechrau
09:00
Hyd
1 flwyddyn
Amser Gorffen
16:30
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Monday to Friday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy