Yn gryno
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector busnes i’ch galluogi i gael sgiliau technegol a chyflogadwyedd a chael cymhwyster galwedigaethol sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol.
... Oes gennych ddiddordeb dilyn gyrfa mewn busnes
... Ydych eisiau gwybod mwy am y byd busnes a marchnata
... Hoffech fynd ymlaen i astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes.
Byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt fel cyfathrebu, rhifedd, sgiliau cyfathrebu, dadansoddi, dehongli, cymhwyso a gwerthuso gwybodaeth. Mae’r unedau yn cynn
- Mentergarwch yn y byd busnes
- Hyrwyddo brand
- Y gyfraith a hawliau defnyddwyr
Rhaid cael o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch sy’n cynnwys un ai Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; NEU gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol sy’n cynnwys un ai gradd TGAU Mathemateg/Mathemateg Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, parchu eraill, dangos brwdfrydedd am y pwnc a chael hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus drwy waith cwrs a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol a bydd yna arholiadau. Mae yna ddisgwyliad i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Pa gymwysterau y byddwch yn eu cael
- Lefel 2 Busnes
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Busnes neu raglen Lefel 3 perthnasol arall.
Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu’n uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys gradd TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Bydd disgwyl i chi wneud cyfraniad wedi ei gymorthdalu tuag at dripiau a gweithgareddau busnes.