Yn gryno
Bydd gennych gyfle i ennill gwybodaeth eang, ynghyd 芒 deall a datblygu sgiliau yn y sector technoleg gwybodaeth a rhai agweddau ar y sector diwydiannau creadigol.
... ydych eisiau dilyn gyrfa mewn TG
... ydych eisiau datblygu ystod o sgiliau a thechnegau, sgiliau personol a phriodoleddau a fydd yn hanfodol i lwyddiant yn eich bywyd gwaith
... oes gennych ddiddordeb ysol mewn cyfrifiadura a thechnoleg gwybodaeth
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth o unedau, yn cynnw
- Y byd ar-lein (arholiad)
- Systemau technoleg (arholiad)
- Portffolio digidol
- Creu animeiddiad digidol
- Creu graffeg ddigidol
- Datblygu cronfa ddata
- Rhwydweithiau cyfrifiadurol
- Datblygu meddalwedd
- Datblygu cynnyrch amlgyfrwng
- Meddwl yn gyfrifiadol
- Cyfrifiadura yn y gweithle
Asesir y cwrs hwn drwy arholiadau yn ogystal ag aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig. Ar y diwedd, byddwch yn cyflawni:
- Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol Lefel 2
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
I gofrestru, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol, yn cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol. Parch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan-gymhelliant yw鈥檙 rhinweddau hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o鈥檔 dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu鈥檔 barhaol a bydd disgwyl i chi barhau gyda鈥檆h astudiaethau a鈥檆h gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Swydd yn y sector TG neu astudiaeth bellach fel Diploma Lefel 3 neu Ddiploma Estynedig mewn TG.
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg