91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

UAL Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu (Theatr Gerddorol) Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cwrs ymarferol hwn, a addysgir gan ddarlithwyr hyfforddedig yn broffesiynol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddod yn berfformiwr triphlyg. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych repertoire o ddeunyddiau cais addas ar gyfer addysg uwch neu astudiaethau yn y conservatoire, yn ogystal â sgiliau academaidd ac ymchwil perthnasol ar safon Lefel 3. Bydd y paratoad hwn yn eich arfogi ar gyfer llwyddiant yn y diwydiant celfyddydau perfformio cystadleuol.

...Rydych chi’n angerddol am ddatblygu eich sgiliau fel perfformiwr.

...Hoffech chi ddatblygu eich aml ddoniau a pharatoi eich hun ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau perfformio a diwydiannau cysylltiedig

...Rydych chi’n frwdfrydig am fod yn greadigol.

Mae’r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sy’n symud o ennill cymwysterau ar lefel TGAU neu o gwrs Lefel 2 perthnasol sy’n mwynhau:

  • Dawns - Jazz a Bale
  • Actio ar gyfer y llwyfan a’r sgrin
  • Canu - Cefnogaeth Ensemble & Unawd
  • Perfformiad Theatr Gerddorol
  • Dyfeisio theatr
  • Cynhyrchu
  • Mynychu theatr fyw a sioeau cerdd
  • Paratoi ar gyfer clyweliad
  • ±á³Ü²Ô²¹²Ô-»åâ±è

Mae’r aseiniadau yn seiliedig ar ymarfer a bydd y gwaith ysgrifenedig yn sail i’r sgiliau sy’n cael eu datblygu fel myfyriwr y celfyddydau perfformio. Bydd ymchwilio i bynciau ac ymarferwyr presennol a hanesyddol yn helpu i ffurfio eich perfformiadau a ddyfeisiwyd a’ch perfformiadau a gyfarwyddwyd.

Fel rhan o’ch cwrs, byddwch chi’n cymryd rhan mewn ystod o berfformiadau yn ystod y flwyddyn megis:

  • ¶Ù°ù²¹³¾Ã¢³Ü
  • Dangosiadau ffilmiau
  • Darnau a ddyfeisiwyd
  • Ystod o ddigwyddiadau allgyrsiol gan gwmnïau perfformio

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys theatr bwrpasol, stiwdio ddrama, stiwdio ddawns ac ardal ymarfer. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwibdeithiau i wylio perfformiadau, cymryd rhan mewn gweithdai a gwrando ar siaradwyr yn rheolaidd. Caiff y cwrs hwn ei asesu’n barhaus trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiadau a phortffolios gwaith. Ar gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:

  • Level 3 Performing Arts Musical Theatre
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs yma, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod a TGAU yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.

Mae diddordeb brwd yn y celfyddydau perfformiadol a pharodrwydd i ymarfer y tu allan i amser coleg yn hanfodol. Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.

Bydd llwyddo i gwblhau Blwyddyn 1 o’r Diploma sy’n werth 90 credyd yn galluogi dysgwyr i symud i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig cyflawn.

Ar ôl hynny, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys:

  • Lefel 4 diploma professiynol mewn Perfformio
  • Cyrsiau gradd mewn Drama, Dawns a Theatr Gerdd mewn prifysgolion neu gonservatoires
  • Cyfleodd am gyflogaeth/prentisiaethau yn y diwydiannau creadigol

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFBE0008AB
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy