Yn gryno
Os ydych chi'n ansicr ar hyn o bryd a hoffech chi gael prentisiaeth nawr, neu fynd ymlaen i astudio lefel Prifysgol, neu o bosibl ennill prentisiaeth yn ddiweddarach ar ôl ennill rhai sgiliau ychwanegol, dyma'r cwrs i chi.
Byddwch yn dysgu sgiliau peirianneg drydanol ac electronig trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig.
... Ydych yn gadael yr ysgol gyda graddau TGAU da
... Ydych eisiau dilyn llwybr gwahanol i’r llwybr Safon Uwch traddodiadol
... Ydych yn dymuno mynd i’r brifysgol neu ddilyn prentisiaeth
Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:
-
- Uned 1 Egwyddorion Peirianneg
- Uned 2 Cyfathrebu/Iechyd a Diogelwch/CAD
- Uned 3 Dylunio Cynnyrch Peirianneg
- Uned 4 Ansawdd Masnachol Cymhwysol
- Uned 15 Peiriannau Trydanol
- Uned 19 Dyfeisiau a Chylchedau Electronig
- Uned 22 Gweithgynhyrchu Bwrdd Cylchedau Argraffedig Electronig
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio. Bydd pob aseiniad yn cynnwys gwahanol dasgau a gaiff eu graddio fel Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol neu Electronig
- Gweithgareddau Sgiliau (i’ch helpu i symud yn eich blaen at waith)
- Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C mewn Mathemateg a Saesneg TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd B a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar o leiaf Gradd Teilyngdod a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.
Bydd gennych ddealltwriaeth dda o Fathemateg a Gwyddoniaeth a byddwch yn mwynhau datrys problemau cymhleth yn ymwneud â dylunio cylchedau, adeiladu a diagnosio diffygion.
Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Bydd angen ichi allu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm, a disgwylir ichi gadw at god ymddygiad y coleg.
Gallwch astudio Peirianneg Drydanol/Electronig ar lefel prifysgol neu gwblhau prentisiaeth yn y sector hwn. Fel arall, gallwch ystyried swyddi sy’n arbenigo yn y math hwn o beirianneg.
I gofrestru, byddwch angen fan leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg Gradd B a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar o leiaf Gradd Teilyngdod a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.