Yn gryno
Mae’r cymhwyster un flwyddyn hwn, wedi’i ddylunio i’ch galluogi i ddatblygu’r uwch sgiliau sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i’r ail flwyddyn ar gyfer Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC (cyfwerth â thair Lefel A), sy’n galluogi astudio prifysgol, neu brentisiaeth yn Lefel 4 neu uwch, neu gyflogaeth ar lefel dechnegol neu broffesiynol o fewn y diwydiant peirianneg.
... Oes gennych gymwysterau neu brofiad blaenorol yn y sector hwn
... Ydych eisiau datblygu gwybodaeth fanwl
… Ydych yn weithgar ac yn dda am ddatrys problemau
Byddwch yn astudio unedau fel:
- Uned 1: Egwyddorion peirianneg, yn cwmpasu mathemateg, egwyddorion mecanyddol a thrydanol
- Uned 2: Cyflwyno prosesau peirianneg yn ddiogel fel tîm
- Uned 3: Dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch peirianneg
- Uned 4: Egwyddorion masnachol ac ansawdd cymhwysol mewn peirianneg
- Uned 10: Dylunio trwy gymorth cyfrifiadur mewn peirianneg
- Uned 25: Ymddygiad mecanyddol defnyddiau metelaidd
- Uned 41: Gweithgynhyrchu prosesau peiriannu eilaidd
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- • BTEC Lefel 3 Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol)
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
I gofrestru, byddwch angen:
- o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg gradd B, Cymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C a Gwyddoniaeth gradd C
neu
- gymhwyster perthnasol Diploma Lefel 2 ar Radd Teilyngdod a TGAU Mathemateg gradd B a Chymraeg/Saesneg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.
Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (Mecanyddol) yn yr ail flwyddyn; yna ymhellach i HNC Peirianneg yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ neu astudiaeth addysg uwch arall mewn prifysgol, neu brentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.
Lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch neu gymhwyster Diploma Lefel 2 a TGAU Mathemateg gradd B.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.