Yn gryno
Mae BTEC Lefel 3 Ymarfer Celf a Dylunio yn gymhwyster galwedigaethol cynhwysfawr sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau ymarferol, y wybodaeth, a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddilyn gyrfa yn y maes creadigol deinamig.
... Oes gennych allu mewn maes creadigol
... Oes gennych ddawn greadigol wych
... Ydych eisiau gyrfa mewn y diwydiant creadigol
Mae cwrs BTEC Lefel 3 Ymarfer Celf a Dylunio wedi'i strwythuro i gynnig cydbwysedd rhwng dealltwriaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol. Mae myfyrwyr yn dod i gysylltiad ag ystod amrywiol o ddisgyblaethau artistig, gan gynnwys lluniadu arsylwadol, cerameg, tecstilau, gwydr, cerflunwaith, cyfryngau cymysg, animeiddio, gwneud printiau, darlunio digidol. Fodd bynnag, rydym yn annog ein dysgwyr i ddefnyddio deunyddiau, technegau a phrosesau yn rhydd er mwyn gwneud eu darganfyddiadau eu hunain.
I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU, Gradd C neu uwch, gan gynnwys mewn un ai pwnc TGAU sy'n gysylltiedig â chelf, Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.
Bydd disgwyl hefyd i chi reoli eich amser a bodloni terfynau amser yn effeithlon. Bydd gofyn i chi gyfrannu at drafodaethau dosbarth ac asesiadau o gyfoedion, cymryd rhan mewn prosiectau grwp a go iawn a rhoi cyflwyniadau ffurfiol ac anffurfiol fel rhan o'ch proses asesu.
Bydd cwblhau Diploma Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, mae gan fyfyrwyr opsiynau amrywiol ar gyfer astudiaeth bellach neu gyflogaeth. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis dilyn addysg uwch mewn disgyblaethau celf a dylunio, fel y Celfyddydau Cain, Dylunio Graffig, Darlunio, Pensaernïaeth, Dylunydd Gêm Fideo, Dylunio Ffasiwn, Dylunio Mewnol, i enwi dim ond rhai. Gall eraill ymuno â’r gweithlu yn uniongyrchol, gan ddefnyddio eu sgiliau mewn meysydd fel dylunio llawrydd, cymorth oriel, neu ddiwydiannau creadigol.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys TGAU cysylltiedig â chelf, Mathemateg/Rhifedd, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Ymgeisiwch
Fel rhan o'r gofynion mynediad, bydd disgwyl i chi fynychu cyfweliad adolygu portffolio lle byddwch yn arddangos eich addasrwydd ar gyfer y cwrs. Yn ystod y cyfweliad byddwch yn cyflwyno eich portffolio a llyfrau braslunio i'r tîm cwrs. Dylai eich gwaith arddangos eich gallu i fynegi a datblygu eich syniadau.
Gall ffioedd ar gyfer ymweliadau ag orielau a digwyddiadau fod yn daladwy drwy gydol y flwyddyn ac mae ffioedd stiwdio hefyd yn daladwy.