Yn gryno
Bydd dysgwyr yn datblygu craidd cyffredin o wybodaeth gyfrifiadurol a meysydd astudio megis rheoli systemau cymorth, dadansoddi systemau, dylunio a graffeg ddigidol i ddatblygu gwybodaeth arbenigol ychwanegol ar gyfrifiaduro. Nod y cwrs yw darparu cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn cyfrifiadureg, gan alluogi dysgwyr i symud ymlaen i astudio ymhellach yn y sector cyfrifiadureg.
.. ydych eisiau cyfuno dysgu academaidd a hyfforddiant ymarfero
... Ydych chi'n mwynhau gweithio fel rhan o dîm
… Ydych chi’n frwdfrydig am dechnoleg
Byddwch yn dysgu profiadau ymarferol trwy gymryd rhan mewn prosiectau a bennir gan gyflogwyr ac, wrth gwrs, cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd.
Cwblhau prosiect yn seiliedig ar dechnolegau digidol gydag Ymddiriedolaeth CyberHub a phartner diwydiant.
Mae’r prosiectau’n cynnig:
- Dysgu cyffrous, arloesol a gweithredol, yn ymwneud yn uniongyrchol â gwaith go iawn
- Dysgu o ansawdd da gan staff cymwys mewn meysydd academaidd craidd (yn cynnwys TGAU Saesneg, Mathemateg neu Sgiliau Hanfodol Llythrennedd/Rhifedd)
- Hyfforddiant uchel ei fri ac arbenigedd diwydiant
- Cyfleusterau ac adnoddau sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant i gynorthwyo eich dysgu
- Dysgu wedi’i deilwra i weddu i’ch sgiliau a’ch diddordebau arbennig chi
- Cysylltiadau gwych â chyflogwyr lleol
- Llwybr clir ar gyfer y byd gwaith a’ch gyrfa yn y dyfodol
- Help i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol
- Addysg a chyngor o ansawdd uchel ar gyfer eich gyrfa
- Y disgwyliad y byddwch naill ai’n symud yn eich blaen at swydd, neu brentisiaeth neu addysg bellach/uwch ar ôl cwblhau eich cwrs
- Cyfleoedd i gwrdd a chysylltu â phobl ifainc eraill ledled y wlad drwy Ymddiriedolaeth CyberHub
- Cymorth, cyngor a mentora arbenigol ar gyfer ehangu eich gorwelion a meithrin uchelgeisiau
Byddwch yn ennill cyfuniad o wybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol i gwrdd â gofynion technolegol newidiol y diwydiant.
Bydd y cwrs yn cymryd agwedd uned-wrth-uned a chewch eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac arholiadau ysgrifenedig. Y cymwysterau y byddwch yn eu hennill yw:
- Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Cyfrifiadura
- Sgiliau Cyflogadwyedd Ehangach AON Sgiliau Hanfodol a Chyfathrebu Lefel 3
- Sgiliau hanfodol lefel 3 AON a Chyfathrebu.
Mae modiwlau Cyfrifiadura BTEC yn cynnwys:
Blwyddyn 1
- Egwyddorion Cyfrifiadureg (arholiad)
- Hanfodion Systemau Cyfrifiadurol (arholiad)
- IT Systems Security & Encryption
- Cymwysiadau Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol
- Computer Games Development
- Datblygu Gwefannau
Blwyddyn 2
- Cynllunio a Rheoli Prosiectau Cyfrifiadurol (arholiad)
- Prosiect Dylunio a Datblygu Meddalwedd
- Effaith Cyfrifiadura
- Graffeg Digidol ac Animeiddio
- Datblygu Cronfa Ddata Berthynol
- Rhwydweithio Cyfrifiadurol
- Dadansoddi a Dylunio Systemau
I ymuno â’r cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch.
Bydd angen ichi ymrwymo i’ch astudiaethau a symud yn eich blaen at brentisiaeth neu swydd yn y sector. Bydd angen ichi baratoi i astudio a gweithio mewn amgylchedd dysgu sy’n adlewyrchu gwaith yn hytrach na’r ystafell ddosbarth, yn cynnwys oriau estynedig, dillad busnes ac ymddwyn mewn modd pwrpasol.
Gwaith mewn meysydd cysylltiedig, fel:
- Peiriannydd rhwydwaith
- Rhaglennydd
- Dylunio a datblygu gwefannau
- Prentisiaethau uwch mewn Cyfrifiadura
- Astudio pynciau cyfrifiadurol ar lefel prifysgol
- Astudio pynciau cyfrifiadurol ar lefel prifysgol
I ymuno â’r cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gradd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf gradd C neu uwch. Bydd angen ichi ymrwymo i’ch astudiaethau a symud yn eich blaen at brentisiaeth neu swydd yn y sector. Bydd angen ichi baratoi i astudio a gweithio mewn amgylchedd dysgu sy’n adlewyrchu gwaith yn hytrach na’r ystafell ddosbarth, yn cynnwys oriau estynedig, dillad busnes ac ymddwyn mewn modd pwrpasol.
Byddwch yn cael y cyfle i gael profiad gwaith, cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar broblemau a'r cyfle i gymryd rhan yng nghynllun Erasmus.