91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser

Gradd Atodol BSc (Anrh) - Nyrsio Milfeddygol

Vet Nursing students
Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
Dyddiad Cychwyn
9 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga

Yn gryno

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol a enillir trwy’r cwrs hwn yn ddymunol yn y Proffesiwn Milfeddygol ac amrywiaeth eang o ddiwydiannau amaethyddol.

... Ydych chi’n dymuno uwchraddio eich Gradd Sylfaen i Radd Anrhydedd lawn mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol
... Ydych chi’n dymuno anelu at swydd raddedig yn eich maes dewisol
... Ydych chi’n awyddus i gyfuno eich astudio gyda phrofiad ymarfero

Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) mewn Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd hon yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Bydd ein BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn datblygu eich gallu i ymgysylltu ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth, gan eich galluogi i wneud cyfraniadau blaengar at y Proffesiwn Nyrsio Milfeddygol.

Bydd y cwrs 120 credyd yn cynnwys:

  • Modiwl ymchwil dan arweiniad prifysgol
  • Swoleg Fertebraidd
  • Moeseg a lles anifeiliaid
  • Gwelliannau mewn iechyd ac ymddygiad anifeiliaid
  • Maeth clinigol datblygedig.

Bydd asesu yn amrywiol a pharhaol trwy gydol blwyddyn y cwrs, i gynnwys trafodaethau a beirniadaethau grwp, prosiectau ymchwil, gwaith portffolio, cyflwyniadau, asesu ac adroddiadau ymarferol.

Byddwch yn ennill BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol.

Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol yng Ngholeg Gwent, neu mae angen un o’r RCVS achrededig FdSc Nyrsio Milfeddygol.

Mae’r amserlen arferol ar gyfer y cwrs hwn yn rhedeg dros un/dau ddiwrnod yr wythnos a bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau o leiaf 20 awr yr wythnos o astudio ac ymchwil annibynnol. Bydd rhai sesiynau dysgu yn cael eu cynnal ar Gampws Glyntâf Prifysgol De Cymru, Pontypridd, er y bydd y mwyafrif yn cael eu cyflwyno ar gampws Brynbuga 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

Bydd cwblhau’r radd atodol BSc (Anrh) Gwyddor Nyrsio Milfeddygol blwyddyn o hyd yn eich galluogi i gystadlu am swyddi graddedig yn y proffesiwn Nyrsio Milfeddygol a Diwydiannau iechyd a lles Anifeiliaid eraill. Pe byddech yn dymuno parhau â’ch Addysg uwch gallech symud ymlaen at Radd Meistr berthynol.

Mae’r Radd Atodol BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol yn gwrs mynediad Blwyddyn 3 yn unig. Mae angen llwyddo yn y Radd Sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol yng Ngholeg Gwent, neu mae angen un o’r RCVS achrededig FdSc Nyrsio Milfeddygol.

Byddwch yn cael eich dysgu trwy ddarlithiau, tiwtorialau a gwaith ymarferol. Gall rhywfaint o’r cyflwyno gael ei ddarparu gan siaradwyr gwadd. Mae astudio hunangyfeiriedig yn chwarae rhan ym mhob modiwl ac mae’n cael ei gefnogi gan amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol. Mae cyfran yr astudio hunangyfeiriedig yn dibynnu ar y modiwl a gall amrywio o 50% i 80%. Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar y cyd gan Goleg Gwent, ar ein Campws ym Mrynbuga a Phrifysgol De Cymru, Trefforest a bydd cyflwyno gwersi yn cael ei rannu rhwng Brynbuga a Threfforest, gofynnwch am fanylion pan ymwelwch ag un o’n digwyddiadau agored.

Campws Brynbuga

Côd y Cwrs
UFDB0002AA
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
16:15
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Dydd Mercher

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy