Yn gryno
Nod y cwrs hwn yw canfod diddordebau a chryfderau unigol o fewn ystod o ddisgyblaethau celf a dylunio a'ch paratoi ar gyfer mynediad i Addysg Uwch
... Ydych eisiau astudio Celf a Dylunio yn y Brifysgol
... Ydych yn greadigol
... Ydych eisiau gwthio eich galluoedd creadigol i ddod o hyd i'ch llwybrau dewisol
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer ystod o fyfyrwyr, gydag amrywiaeth o sgiliau academaidd a chreadigol. Y nod yw ymestyn eich galluoedd creadigol a darganfod pa lwybr gyrfa sy'n addas i chi.
Byddwch hefyd yn ennill profiad ymarferol o cerameg, gwneud printiau, ffasiwn a thecstilau, yn ogystal â'r elfennau craidd - yn seiliedig ar luniadu a pheintio, graffeg a chyfrifiaduron, ac astudiaethau hanesyddol a chyd-destunol. Byddwch yna'n datblygu yn eich cyfeiriad dewisol. Byddwch yn cael arweiniad gofalus ar gyfer paratoi eich portffolio yn barod ar gyfer cyfweliadau.
Mae'r cwrs hwn wedi ei rannu i 3 cham sy'n cynnwys 3 tymor academaidd:
- Cam 1 - Archwilio iaith weledol greadigol ym maes celf a dylunio
- Cam 2 - Datblygu ymarfer arbenigol a pharatoi ar gyfer dilyniant ym maes celf a dylunio
- Cam 3 - Cynllunio, creu a chyflwyno prosiect celf a dylunio mawr
Asesir y cwrs hwn drwy ystod o weithgareddau, gan gynnwys asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig, cyflwyniadau, portffolios ac arsylwadau. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni Diploma Astudiaethau Sylfaenol CBAC mewn Celf a Dylunio.
I gofrestru, fel arfer, bydd angen i chi feddu ar gymwysterau Safon Uwch neu gymhwyster Lefel 3 cyfatebol mewn Celf, gan gynnwys pwnc celf a dylunio. Croesawir ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt yn meddu ar gymwysterau ffurfiol ond sy’n meddu ar brofiadau amgen os gellir darparu tystiolaeth o allu artistig yn ystod y cyfweliad.
Mae hwn yn gwrs aml-ddisgyblaethau a’r nod yw rhoi rhagflas i chi ar amrywiaeth o bynciau ym maes celf a dylunio megis darlunio, arlunio, astudiaethau cyd-destunol, tecstilau, serameg, ffotograffiaeth, printio a graffeg.
Cyrsiau Addysg Uwch ar draws yr ystod lawn o gelf, dylunio a phynciau cysylltiedig.
Fel rheol, Lefelau A neu gymhwyster Lefel 3 mewn Celf, yn cynnwys pwnc celf a dylunio. Croesewir ceisiadau hefyd gan fyfyrwyr heb gymwysterau ffurfiol, ond sydd â phrofiadau eraill, os gellir darparu tystiolaeth o allu artistig mewn cyfweliad.
Fel rhan o'r gofynion mynediad, bydd disgwyl i chi fynychu cyfweliad adolygu portffolio lle byddwch yn arddangos eich addasrwydd ar gyfer y cwrs. Yn ystod y cyfweliad byddwch yn cyflwyno eich portffolio a llyfrau braslunio i'r tîm cwrs. Dylai eich gwaith arddangos
eich gallu i fynegi a datblygu eich syniadau.