Yn gryno
Yn ystod y cwrs Lefel Cynnydd mewn Gosod Brics, byddwch yn astudio cyfuniad o unedau adeiladu ymarferol a damcaniaethol yn canolbwyntio ar osod brics, gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymhellach ar gyfer gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
... Rhai sydd â diddordeb brwd mewn adeiladu
... Rhai sy’n dyheu am yrfa fel gosodwr brics cymwys
... Rhai sy’n hoffi cymysgedd o astudio ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol
Yn ystod y cwrs Gosod Brics lefel cynnydd, byddwch yn astudio unedau adeiladu ymarferol a damcaniaethol yn cynnwys:
- Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu
- Adeiladu waliau solet, pileri sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain a phileri cysylltiedig
- Dehongli lluniadau gweithio er mwyn gosod strwythurau gwaith maen
- Adeiladu waliau ceudod sy’n ffurfio strwythurau gwaith maen
- Cynhyrchu gwaith maen uniad tenau a chladin gwaith maen
Byddwch yn treulio amser yn ein gweithdai ymroddedig sydd â chyfarpar da a byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ysgrifenedig ac ar-lein. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Brics
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
In order to apply, you’ll need a Level 2 (Foundation) in Bricklaying and either GCSE Maths/Maths Numeracy or English/Welsh First Language Grade C or above.
Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel Cynnydd mewn Gosod Brics, gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Gosod Brics, Prentisiaeth, neu ddod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu.
Er mwyn gwneud cais, byddwch angen Lefel 2 (Sylfaen) mewn Gosod Brics a naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Gradd C neu uwch.
Bydd angen i chi brynu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) addas a fydd yn costio tua £40.00, yn ogystal â’ch offer ysgrifennu eich hun.