Yn gryno
Byddwch yn dysgu sgiliau plymio a thrydanol sylfaenol a gwybodaeth a byddwch yn cael eich goruchwylio wrth i chi wneud gweithgareddau ymarferol amrywiol sy'n seiliedig ar wybodaeth.
... Rhai fyddai’n hoffi cyflwyniad i blymio i arwain at addysg bellach
...hoffech chi gwrs sy’n hynod ymarferol
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n edrych am gyflwyniad i'r diwydiant plymio a thrydanol, sy'n dymuno dilyn cwrs a fydd yn gweithredu fel llwybr i astudiaethau pellach yn y maes hwn. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhai sgiliau a gwybodaeth graidd, ynghyd â'r cyfle i symud ymlaen naill ai i'n cymwysterau plymio Lefel 2 neu 3. Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddechrau datblygu eu:
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw'n newid, neu wedi newid, dros amser;
- Deall y masnachau, y rolau a’r gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Dealltwriaeth o gylch bywyd adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ynghlwm wrth bob cam;
- Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o’r technolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o ran sut mae’r rhain yn berthnasol i, ac yn bwysig yn, y gweithle a’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o, a’r gallu i, gymhwyso’r egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch lles a’r amgylchedd;
- Gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sy'n ofynnol wrth gynllunio, perfformio a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn o leiaf dwy grefft o fewn y sector adeiladu a'r amgylchedd adeiledig.
Cyflwynir y cwrs gan sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- L2 Sylfaen mewn Plymwaith
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os na chyflawnir C neu uwch)
Er mwyn ymuno â’r cwrs, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd E neu uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Lefel 2 Dilyniant neu gyflogaeth/prentisiaeth ar Lefel 3.
Lleiaf o 4 GCSEs gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Numeracy a Saesneg/Y Gymraeg Fel Iaith Gyntaf.
Bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad diwydiant adeiladu er mwyn penderfynu ar y cwrs mwyaf priodol