Yn gryno
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sgiliau trydanol a phlymio sylfaenol yn ogystal â’r wybodaeth i’w hategu. Byddwch yn cael goruchwyliaeth wrth i chi gyflawni gweithgareddau ymarferol amrywiol ac ar sail gwybodaeth.
..hoffech chi gael cyflwyniad i Osodiadau Trydanol er mwyn arwain at astudio ar gyrsiau uwch
hoffech chi feithrin sgiliau trydanol
...hoffech chi gwrs sy’n hynod ymarferol
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n chwilio am gyflwyniad i blymio a’r diwydiant trydanol sydd am gyflawni cwrs a fydd yn llwybr i astudiaethau pellach yn y maes hwn. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau a gwybodaeth graidd ynghyd â rhoi cyfle i chi symud naill ai i’n cwrs Lefel 2 Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol neu ein cwrs Lefel 2 Dilyniant mewn Plymio. Mae’r cymhwyster yn galluogi defnyddwyr i ddatblygu eu:
- Gwybodaeth, sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen wrth gynllunio, cyflawni a gwerthuso tasgau ymarferol cyffredin mewn gosodiadau trydanol a phlymio
- Dealltwriaeth o’r adeiladau a’r strwythurau sy’n rhan o’r amgylchedd adeiledig a sut maen nhw'n newid, neu wedi newid, dros amser;
- Deall y masnachau, y rolau a’r gyrfaoedd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Dealltwriaeth o gylch bywyd adeiladau a strwythurau yn yr amgylchedd adeiledig a’r egwyddorion a’r prosesau cysylltiedig ynghlwm wrth bob cam;
- Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o’r technolegau newydd yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Sgiliau cyflogadwyedd a’u dealltwriaeth o ran sut mae’r rhain yn berthnasol i, ac yn bwysig yn, y gweithle a’r sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig;
- Gwybodaeth o, a’r gallu i, gymhwyso’r egwyddorion gweithio mewn ffyrdd sy’n amddiffyn iechyd, diogelwch lles a’r amgylchedd;
- Cyflawnir y cwrs drwy sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy ardderchog a gwersi theori er mwyn ategu’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod y sesiynau ymarferol. Byddwch yn cael eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig a phrofion ar-lein.
Unwaith y byddwch wedi gorffen, byddwch wedi cyflawni:
- Lefel 2 Sylfaen mewn Gosodiadau Trydanol
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os na chyflawnir C neu uwch)
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu a Cymhwyster Sgiliau Adeiladu Lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.
Astudio ar gymhwyster Lefel 2, symud ymlaen yn eich masnach ddewisol, cyflogaeth neu brentisiaeth ar Lefel 3
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf neu a Cymhwyster Sgiliau Adeiladu Lefel 1 a TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af gradd D neu uwch.