Yn gryno
Mae hwn yn gwrs blwyddyn, llawn amser (5 diwrnod yr wythnos). Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd ei hangen arnoch i fynd yn eich blaen i weithio yn y sector peirianneg. Byddwch yn gwneud prosiectau ymarferol yn y gweithdy ac astudiaeth ddamcaniaethol.
Bydd cwblhau’r cwrs blwyddyn hwn yn llwyddiannus yn galluogi llwybr cyflym i ail flwyddyn rhaglen brentisiaeth yn y gweithle. Felly, bydd bod yn ddysgwr ar y Rhaglen Beirianneg Uwch yn cynyddu eich apêl i gyflogwyr darparol sy’n chwilio am brentisiaid.
...rydych eisiau dilyn gyrfa yn y maes Peirianneg Fecanyddol
...hoffech fynd yn eich blaen i brentisiaeth lawn yn y diwydiant peirianneg
...hoffech gymysgedd o astudiaethau ymarferol a damcaniaethol
...hoffech astudio ar gyfer cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg
Dyma gwrs ymarferol, cysylltiedig â gwaith, lle byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ymarferol a thasgau ysgrifenedig sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd gwirioneddol yn y gweithle.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei ddarparu amser llawn dros 36 wythnos, am 30 awr yr wythnos ar y campws coleg. Fel rhaglen uwch, bydd hefyd yn cynnwys cymysgedd o brofiad lleoliad gwaith a ymweliadau diwydiannol. Byddwch yn cael eich cysylltu â chwmnïau peirianneg ar gyfer lleoliadau profiad gwaith sy'n para o leiaf 5 wythnos ac o bosibl hyd at 12 wythnos.
Byddwch yn astudio ar gyfer Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Peirianneg Lefel 3 BTEC. Mae'r unedau BTEC yn cynnwys:
- Egwyddorion trydanol ac electronig
- Cyflawni Prosesau Peirianneg yn Ddiogel fel Tîm
- Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg
- Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur
Byddwch hefyd yn dilyn Diploma mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PGP) NVQ Lefel 2. Bydd y PGP yn rhoi i chi sgiliau gweithdy peirianneg fecanyddol hanfodol (e.e. Torri Metel, Troi, a Gosod â Llaw) sydd eu hangen arnoch ar gyfer fframwaith y brentisiaeth.
Bydd eich gwybodaeth a'ch cymhwysedd ymarferol yn cael eu hasesu'n barhaus. Bydd hyn yn cynnwys asesiadau mewnol ac allanol.
Ar gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill:
- Tystysgrif Estynedig Genedlaethol mewn Peirianneg (Mecanyddol) Lefel 3 BTEC
- Diploma NVQ Lefel 2 – 6 uned wedi'u dewis i gefnogi gofynion diwydiant penodo
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Ar ddiwedd y cwrs byddwch wedi datblygu'r sgiliau ymarferol sylfaenol, gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg fecanyddol ac arferion yn y gweithdy. Byddwch yn cael eich annog i geisio prentisiaeth o fewn y diwydiant perthnasol lle all cyfleoedd gwaith gynnwys dylunio cynnyrch, gwneud offer, gweithgynhyrchu, peirianneg awyrofod a modurol.
Gallwch barhau i astudio am flwyddyn arall, ar sail rhyddhau am ddiwrnod, i gyflawni Diploma Genedlaethol mewn Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 BTEC. Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i fynd yn eich blaen i astudio ar gyfer addysg uwch- megis BTEC, HNC a HND.
5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys:
TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig.
5 TGAU gradd C neu uwch gan gynnwys:
TGAU gradd C mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall yn ddelfrydol Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig.
Byddwch yn cael cist offer a fydd yn werth oddeutu £200.000 ar ôl ichi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, penseli lliw, cwmpas, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.