91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 2

Agored Cymru Diploma mewn Addysg sy’n Gysylltiedig â’r Byd Gwaith (Gofal) Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
2

Yn gryno

Cwrs paratoi yw hwn i helpu dysgwyr i feithrin eu sgiliau cyflogadwyedd yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ofalu am blant, ymarferion cyfoes, iechyd a datblygu, iechyd a diogelwch, chwarae a gweithgareddau creadigol sy'n gysylltiedig â deddfau presennol

... Ydych chi am weithio â phlant, pobl ifanc ac/neu yn y sector iechyd.

... Ydych chi am ennill cymwysterau pellach yn y maes Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

... Ydych am ddatblygu eich gwybodaeth a sgiliau presennol ymhellach.

Bydd dysgwyr yn meithrin gwybodaeth a sgiliau, gan gynnwys rhifedd a llythrennedd, i baratoi ar gyfer ennill cymhwyser yn y meysydd Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae'r cwrs yn rhedeg dros 4 diwrnod yn y coleg ac mae'n cynnwys ystod o bynciau megis:

  • Cynllunio Gyrfa
  • Iechyd a Diogelwch
  • Gweithio yn Unol â Safonau Ymarfer Da
  • Cyfathrebu’n Dda yn y Gweithle
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Sgiliau Cyfweld
  • Profiad Gwaith (dysgwyr yn cwblhau lleoliad gwaith am o leiaf 50 awr)

Bydd y cwrs yn meithrin gwybodaeth bwnc ac yn asesu galluoedd mewn cyd-destun damcaniaethol ac ymarferol. Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau asesiadau mewnol ac allanol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd modd i chi symud ymlaen i gyflogaeth neu gwrs arall yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

Mae'r penderfyniad i lwyddo ac angerdd am ddysgu yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb, sy'n cynnwys gloywi sgiliau, yn ofynnol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunan gymhelliant.

Bydd disgwyl i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith fel rhan o'r cwrs hwn.

Mae'r cwrs yn cynnwys asesiad parhaus sy'n cynnwys cydrannau damcaniaethol ac ymarferol. Disgwylir i chi fynd ati i gyflawni eich astudiaethau a gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd modd i chi symud ymlaen i gyflogaeth neu gwrs arall yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant - CBAC/City& Guilds.
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Diploma Lefel 1 ar radd Teilyngdod neu'n uwch. Cymhwyster Sgiliau Hanfodol gan gynnwys Mathemateg, Saesneg neu'r ddau (ar gyfer dysgwyr sy'n symud ymlaen yn fewnol). O leiaf 4 TGAU ar radd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol).

Rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol cyn dechrau'r cwrs. Rhaid i geisiadau DBS gael eu cynnal yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0640AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFDI0640AB
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFDI0640AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Wednesday to Friday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy