91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Lefel A Astudiaethau Ffilm Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Lefelau A
Dyddiad Cychwyn
2 Medi 2025
Hyd
2 years
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau ffilm i'ch galluogi chi i benderfynu ble mae eich angerdd.

... Ydych eisiau mynd ymlaen i addysg uwch yn y pwnc
... Ydych eisiau gweithio yn y diwydiant ffilm
... Ydych am gwrs astudio ymarferol a damcaniaethol

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi os ydych am fynd ymlaen i addysg uwch, gweithio yn y diwydiant ffilm neu os oes gennych ddiddordeb yn y pwnc. Mae'r cwrs hwn yn cynnwys astudio nodweddion:

  • Ffilmiau (yn cynnwys setiau, celfi, gwisgoedd, colur, gwaith camera, goleuo, golygu, sain, perfformio)
  • Naratif, genre a chynrychioli
  • Gwahanol lwyfannau gwylio ac ymatebion cynulleidfaoedd i ffilmiau
  • Diwydiannau ffilm Hollywood a Phrydeinig
  • Sinema'r byd
  • Astudiaeth feirniadol ar ffilmiau

Mae'r cwrs Lefel U yn dilyn patrwm tebyg, gan eich caniatáu chi i greu cynhyrchiad ymarferol arall (sgript ffilm ar gyfer ffilm ffuglen, sgript ar gyfer rhaglen ddogfen neu ffilm fer) sy'n gysylltiedig â phrosiect ymchwil.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaol ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Gallwch fynd ymlaen i addysg uwch (cyrsiau HND neu BA) mewn pwnc ffilm, cyfryngau neu gyfathrebu. Mae rhai cyrsiau gradd yn rhoi mwy o bwyslais ar gynhyrchu creadigol ac yn gallu bod wedi’u lleoli mewn adrannau celf a dylunio neu’r celfyddydau perfformio, yn ogystal ag mewn adrannau cyfryngau, ffilm a chyfathrebu. Mae cyrsiau eraill yn pwysleisio sgiliau beirniadol. Yn aml, mae cyrsiau gradd yn cynnig cyfuniad o elfennau ac agweddau creadigol a beirniadol.

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Oherwydd natur ddadansoddol y cwrs, awgrymir (er nad yw'n ofyniad) bod dysgwyr yn cyflawni gradd B yn TGAU Llenyddiaeth Saesneg.

Tutor and student sharing exam results

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFAL0120Y1
Hyd
2 years
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy