Yn gryno
Yn dilyn ymlaen o gymhwyster Lefel 1, mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau wahanol gymhwyser er mwyn datblygu eich sgiliau Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur yn bellach eto.
…unrhyw un sy’n dilyn gyrfa neu’n diddori’n frwd mewn Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys dau wahanol gymhwyster.
Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur – Modelu Parametrig
Yn cynnwys:
- Braslunio cymhleth a chyfyngiadau 2D er mwyn creu nodweddion
- Creu a golygu nodweddion gwaith a defnyddio gorchmynion nodweddion cymhleth
- Creu ac addasu rhannau a chydosodiadau ar sail tablau
- Defnyddio mudiant a chyfyngiadau cydosod gyredig
- Ychwanegu gwybodaeth ychwanegol i gynllun dyluniad er mwyn cynorthwyo’r dehongliad o fwriad y cynllun
- Creu arddangosfeydd rhannau a chydosodiadau o ansawdd cyflwyniad
Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Cynllunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur
Mae’r cymhwyser hwn yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o gynllunio 2D a’i egwyddorion o ran caledwedd, meddalwedd ac amgylchedd, gan gynnwys:
- TG, caledwedd Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur a systemau gweithredu sylfaenol cysylltiedig
- Elfennau allweddol meddalwedd gysylltiedig â chynllunio 2D
- Technegau rheoli ffeiliau
- Gorchmynion gweld a sefydlu’r gofod dylunio
- Gorchmynion dylunio sylfaenol er mwyn cynhyrchu dyluniadau
- Y system gydlynu er mwyn creu darluniau cywir
- Trefnau ar gyfer llinellu, testun a dimensiynu syml
- Trefnau sylfaenol ar gyfer golygu dyluniadau
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, cewch symud ymlaen un ai i gwrs Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur – Modelu Parametrig Lefel 3 City & Guilds neu Ddylunio 2D drwy Gymorth Cyfrifiadur Lefel 3 City & Guilds.
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol ond bydd ennill cymhwyster Dyfarniad City & Guilds Lefel 1 mewn Modelu Parametrig CAD yn fan cychwyn da.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig opsiwn dysgu agored hefyd.