Yn gryno
Os hoffech chi weithio gyda phobl â nam ar eu clyw neu os ydych yn diddori mewn dysgu ffordd wahanol o gyfathrebu, mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad rhagorol i iaith arwyddion.
…unrhyw un sy’n diddori mewn dysgu iaith arwyddion
Yn ogystal â bod yn awyddus i ddysgu iaith newydd, bydd angen i chi ymrwymo’n llwyr i fynychu yn ogystal â pharchu eraill a gallu gweithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm.
Byddwch yn astudio dwy uned orfodol ar yr un pryd dros 10 wythnos, ac yn dysgu defnyddio a deall Iaith Arwyddion Prydain:
- Deall Iaith Arwyddion Prydain
- Defnyddio Iaith Arwyddion Prydain
Byddwch yn cael eich asesu drwy sesiynau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, arddangosiadau a phortffolio o dystiolaeth a thystiolaeth fideo, gydag asesiadau wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch dymuniadau o ran tasgau unigol byr neu rai sy’n cyfuno nifer o feini prawf. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill Gwobr Lefel Mynediad Agored Cymru mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol.
Ar ôl y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i gymhwyster Lefel 1 priodol.