Yn gryno
Mae yna angen cynyddol am dechnegwyr modurol i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid a thrydan.
Bydd y cwrs hwn yn darparu'r ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio'n ddiogel ar systemau foltedd uchel sydd yn y ceir hyn.
...unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ar hyn o bryd
...unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid/trydan
Byddwch yn dysgu drwy ystod o weithgareddau dosbarth a gwaith ymarferol yn ein gweithdai sydd â chyfarpar gwerth chweil. Byddwch yn cael cyfle i weithio'n ymarferol gyda'n hystod o gerbydau trydan cyfoes.
Byddwn yn mynd i'r afael â:
- Gweithio'n ddiogel ar gerbydau gyda systemau foltedd uchel
- Gweithio'n ddiogel yn ystod cynnal a chadw arferol cerbydau hybrid/trydan
- Ailosod cydrannau mewn systemau foltedd uchel cerbydau hybrid/trydan
- Trin cerbydau sydd â difrod i'r systemau foltedd uchel
Cewch eich asesu drwy:
- Arholiad Ysgrifenedig
- Asesiad ymarferol
Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid / Trydan Lefel 3
Mae'r cwrs ar gyfer technegwyr sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ac yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu gyfwerth.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol o weithio gyda cherbydau hybrid/trydan.
Mae ceir yn prysur gynyddu i fod yn rHai sy'n defnyddio trydan, a bydd gofynion Iechyd a Diogelwch ynddynt eu hunain yn gofyn ichi fod yn wybodus am ddiogelwch pawb.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ichi yn yr holl systemau cerbydau trydan sydd angen gofal ychwanegol a gwybodaeth arbenigol, a byddwch yn magu hyder a'r gallu i ddelio'n ddiogel ac effeithiol gyda phob math o gerbydau sy'n ymgorffori Systemau Foltedd Uchel.