Yn gryno
Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno i’r sgiliau y mae’r amryfal ddiwydiannau cyfryngau eu hangen.
... Rydych chi’n greadigol
... Rydych eisiau gyrfa y mae technoleg yn rhan ohoni
... Rydych chi’n weithiwr caled ac yn gallu cymell eich hun
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd eisiau gweithio mewn swydd greadigol sy'n cynnwys technoleg ac i symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn maes pwnc cysylltiedig (e.e. cyfryngau creadigol, cyfryngau rhyngweithiol, dylunio gemau, graffeg neu ffotograffiaeth).
Byddwch yn adeiladu eich dealltwriaeth a galluoedd ymarferol mewn amrywiaeth o brosesau a meddalwedd a byddwch yn cwblhau ystod o aseiniadau ymarferol. Byddwch yn gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm ar gyfer aseiniadau ymarferol.
Bydd gennych fynediad i'r cyfrifiaduron Apple Mac diweddaraf a meddalwedd Adobe Creative Cloud, ynghyd â chyfleusterau cyfoes rhagorol.
Ymhlith modiwlau Cyfryngau mae:
- Dylunio Gwefannau
- Cynhyrchu Animeiddiad
- Ffotograffiaeth
- Cynhyrchu Clywedol/Gweledol
- Dylunio Gemau 2D
- Dadansoddi a Cynnyrch Cyfryngu
Cewch eich asesu drwy waith ymchwil a dadansoddi, gwaith ysgrifenedig, dylunio creadigol, defnydd o dechnoleg, datrys problemau, a gwerthuso. Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
Diploma Technegol yn y Cyfryngau, Lefel 2 – OCR Caergrawnt
Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
I gofrestru, bydd angen o leiaf 4 TGAU, Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol, gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf.
Dylech allu datblygu syniadau creadigol a bod yn barod i archwilio ystod eang o brosesau technolegol. Mae angen ymrwymiad llawn i fynychu, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunangymhelliant ac angerdd am y pwnc. Mae disgwyl hefyd y byddwch yn parhau â'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
A range of Creative Level 3 Extended Diplomas, such as the Metaverse Design, UAL Level 3 Extended Diploma Creative Media Production or Games Design.
Dylech allu datblygu syniadau creadigol a bod yn barod i archwilio ystod eang o brosesau technolegol. Mae angen ymrwymiad llawn i fynychu, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunangymhelliant ac angerdd am y pwnc. Mae disgwyl hefyd y byddwch yn parhau â'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol, gan gynnwys naill ai Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith 1af Gradd D neu uwch.
Fel rhan o'r cwrs hwn, bydd angen i chi dalu ffioedd stiwdio, prynu llyfrau braslunio, deunyddiau paentio a lluniadu. Efallai y bydd ffioedd teithio ar gyfer ymweliadau a digwyddiadau oriel hefyd yn daladwy trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.