91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

UAL Diploma mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol (Dylunio Metaverse) Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn berffaith ichi os oes gennych ddiddordeb mewn dylunio digidol creadigol yn arwain at gyflogaeth mewn llu o feysydd, gan gynnwys cyfryngau sain/gweledol/rhyngweithiol, cyhoeddusrwydd a marchnata, dylunio cynnyrch a rhith-wirionedd.

... ydych eisiau datblygu eich sgiliau creadigol

...ydych yn mwynhau dylunio, gweithio gyda thechnoleg a datblygu syniadau ar gyfer cynnyrch

... ydych eisiau gyrfa mewn ystod eang o ddiwydiannau creadigol

Mae hwn yn gwrs creadigol llawn amrywiaeth sy'n anelu at gynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr ac artistiaid. Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau er mwyn datblygu eich sgiliau creadigol, fel dylunio a datblygu cysyniad, rhyngwyneb technoleg, modelu ac animeiddio 3D, dylunio tudalennau gwe/apiau/gemau, cynhyrchu fideo digidol a dylunio cynnyrch. Byddwch yn dod i ddeall pecynnau meddalwedd creadigol gan gynnwys Photoshop, 3D Studio Max a Dreamweaver, a phrofi llu o friffiau dylunio i feithrin eich sgiliau technegol. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys llu o sesiynau ymarferol wedi eu hanelu at gynhyrchu portffolio creadigol o ystod eang i helpu ichi symud ymlaen at brifysgol neu gyflogaeth. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cael eich asesu ar eich gwaith cwrs, yn y pen draw yn cyrraedd Lefel 3 Technoleg a Chynhyrchu Cyfryngau Creadigol, yn ogystal â chymwysterau cynorthwyol priodol i ymestyn eich sgiliau; Gweithgareddau Sgiliau a Saesneg a Mathemateg. Gweithgareddau Sgiliau a Saesneg a Mathemateg.

O ran cymwysterau, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf/TGCh ac un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwchmewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Gan fod hwn yn gwrs creadigol, byddwch hefyd angen bod ag ymagwedd ben agored i feddwl am syniadau a datrysiadau i friffiau dylunio a bydd disgwyl ichi ymrwymo i bresenoldeb llawn.

 

Wedi ichi gwblhau'r cwrs, gallwch fynd ymlaen i astudio Gradd Sylfaen Menter Greadigol (Cyfathrebu Graffeg) gyda 91Ïã½¶ÊÓÆµ neu unrhyw gwrs lefel prifysgol arall. Fel arall, gallwch gael eich cyflogi yn y diwydiannau cyfryngau neu amlgyfrwng neu rôl berthnasol (er enghraifft, marchnata neu ddylunio) mewn sector arall.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Cyn ichi gael eich derbyn, bydd angen ichi ddod am gyfweliad i drafod eich sgiliau, amcanion ac unrhyw gynlluniau gyrfa pellach gydag aelod o dîm y cwrs er mwyn gweld ai hwn yw'r dewis iawn ar eich cyfer chi. Dewch ag unrhyw waith creadigol, dylunio neu dechnoleg rydych wedi eu gwneud gyda chi, fel llyfrau braslunio, lluniau, gwaith fideo, cerddoriaeth ac yn y blaen.

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFBE0017AB
Amser Dechrau
09:00
Hyd
1 flwyddyn
Amser Gorffen
16:00
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Dydd Mawrth i Ddydd Gwener

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy