Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio'n benodol ar 'Seiberddiogelwch' o fewn y cwricwlwm cyfrifiadura. Byddwch yn datblygu cyfuniad o sgiliau technegol, busnes, rhyngbersonol a rheoli prosiect sydd eu hangen, nid yn unig yn y sector cyfrifiadura, ond ym mhob sector sy'n defnyddio technoleg mewn amgylchedd busnes cyfoes. Mae'r cwrs hwn wedi ei ddyfarnu gan Pearson, wedi ei ddatblygu ymhellach ac yn cael ei gynnig mewn cydweithrediad ag Admiral, Fujitsu a Thales.
... Rydych eisiau cyfuniad o wybodaeth gyfrifiadurol a sgiliau ymarferol
... Rydych chi’n frwdfrydig am ofynion technolegol diwydiant sy’n newid yn barhaus
Rydych yn cael eich hysgogi gan anghenion diwydiant a chyflogwr ac yn barod am y gweithle
... Rydych eisiau cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth fusnes
...Rydych yn dymuno dilyn gyrfa neu astudiaethau pellach yn y byd Seiber neu ddiwydiannau digidol eraill
Mae'r rhaglen wedi'i datblygu ar y cyd â chyflogwyr er mwyn datblygu eich sgiliau technegol o safbwynt diogelwch systemau, datblygu meddalwedd, rhwydweithio, dadansoddi a dylunio systemau.
Byddwch yn astudio unedau craidd yn eich blwyddyn gyntaf, ac yna'n symud ymlaen at y Ddiploma Estynedig yn eich ail flwyddyn. Byddwch yn astudio ystod eang o bynciau, allai gynnwys:
Blwyddyn 1:
- Egwyddorion cyfrifiadureg (arholiad)
- Hanfodion systemau cyfrifiadur (arholiad)
- Diogelwch ac amgryptiad systemau TG
- Cymwysiadau busnes cyfryngau cymdeithasol
- Datblygiad gwefan
- Datblygiad Apiau Symudol
Blwyddyn 2:
- Cynllunio a rheoli prosiectau cyfrifiadura (asesiad)
- Dylunio meddalwedd a phrosiect datblygu (asesiad)
- Effaith cyfrifiadura
- Rhyngweithio dynol a chyfrifiadurol
- Rhwydweithio cyfrifiadurol
- Rheoli a chefnogi systemau
- Dadansoddi a Dylunio Systemau
Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs ac arholiadau, a byddwch yn cyflawni
- Lefel 3 mewn Cyfrifiadura (Mae hyn yn gyfwerth â 3 phwnc Safon Uwch)
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch (Mae hyn yn gyfwerth ag 1 pwnc Safon Uwch)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau, yn cynnwys cyfleoedd i gyflawni cymhwyster Venda ychwanegol fel Comptia/ CISCO/ Haciwr Moesol Ardystiedig
- Cysylltiadau gyda chyflogwyr a chyfweliad diamod gydag Admiral ar gyfer cyflogaeth ar ddiwedd eich cwrs
- Lleoliad gwaith perthnasol a diddorol
Yn ogystal, byddwch yn cwblhau'r Dystysgrif Her Uwch.
Ceir cyfle i deithio dramor ac ymgymryd â lleoliad gwaith drwy'r cynllun Erasmus plus.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol yr ydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain.
Gall fod cyfnodau o gyfleoedd lleoliad gwaith yn codi ar ddyddiau astudio neu yn ystod y gwyliau.
- HND mewn Cyfrifiadura neu Radd Sylfaen mewn Diogelwch TG yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ neu astudiaethau eraill ar lefel y brifysgol mewn pynciau megis cyfrifiadura, e-fasnach, gemio, systemau rheoli gwybodaeth neu reoli cronfa ddata.
- Cyflogaeth fel is-ddatblygwr neu dechnegydd cyfrifiaduron ayyb
- Prentisiaeth mewn cwmni TG neu Gyfrifiadura addas
- Cyrsiau prifysgol mewn cyfrifiadura, dylunio gemau cyfrifiadur a fforensig cyfrifiaduron
Er mwyn ymrestru, bydd angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu’n uwch arnoch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu’n uwch.