91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

UAL Diploma in Creative Media Production & Technology (Games Design) Level 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
3

Yn gryno

Gan ddefnyddio'r cyfrifiaduron perfformiad uchel a'r dechnoleg rith-wirionedd ddiweddaraf, mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i chi ennill sgiliau a phrofiad perthnasol, gan eich helpu i gadw i fyny â'r diwydiant hwn sy'n prysur newid.

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn chwarae gemau
... Ydych yn greadigol ac yn gweithio'n galed
... Hoffech symud ymlaen i addysg uwch yn y maes hwn

Mae'r diwydiant gemau cyfrifiadurol yn faes sy'n ehangu'n gyflym, ac yn cynnig llawer o gyfleoedd. Mae'r cymhwyster hwn yn eich galluogi i ganolbwyntio ar yr agweddau creadigol, artistig a thechnoleg ar gynhyrchu gemau digidol. Byddwch yn dysgu drwy ymgymryd â phob cam o'r broses cynhyrchu gemau, megis datblygu celf gysyniadol, animeiddio 2D a 3D, modelu 3D ar gyfer amgylcheddau gemau, a datblygu sgriptiau o fewn crombil gemau. Byddwch hefyd yn dysgu codio ar gyfer gemau ar y we ac apiau.

Wedi i chi gwblhau'r cymhwyster bydd gennych bortffolio cryf o gemau y mae modd eu chwarae i'w cyflwyno i brifysgolion a chyflogwyr.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs (a gyflwynir drwy gydol y flwyddyn). Dyma'r cymwysterau a gyflawnir:

Blwyddyn 1

Blwyddyn 2

I gofrestru, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch. Dylai'r rhain gynnwys Celf/pwnc creadigol/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg. Fel arall, rydym yn derbyn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Dylech hefyd allu defnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a barn i gychwyn a chwblhau tasgau a gweithdrefnau lled-gymhleth (o fewn terfynau). Mae hyn yn cynnwys gallu mynd i'r afael â phroblemau gyda lefel o annibyniaeth. Rydych angen bod yn ymwybodol o safbwyntiau a dulliau gwahanol o fewn eich maes astudio neu waith. Bydd disgwyl i chi ymrwymo pum diwrnod yr wythnos o astudio, sy'n cynnwys addysgu'r elfen wybodaeth o'r cymwysterau yn y coleg, a diwrnodau/blociau lleoliad gwaith ar gyfer yr elfen gymhwystra o'r cymwysterau.

Prifysgol: Mae'r cymhwyster hwn yn darparu pwyntiau tariff UCAS ac yn cefnogi eich dilyniant i addysg uwch mewn pwnc sy'n ymwneud â dylunio gemau, megis y Radd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ. Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ.

Cyflogaeth: Wedi cwblhau'r cymwysterau hyn, gallech symud ymlaen i swyddi amrywiol, yn dibynnu ar eich llwybr dewisol. Mae opsiynau gyrfa yn cynnwys dylunydd gemau, modelwr 3D, animeiddiwr 2D/3D, peiriannydd dev-ops, rhaglennydd gemau, arlunydd gemau, dylunydd lefel neu arlunydd effeithiau gweledol.

Bydd cwblhau Diploma 90 Credyd Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn. Wedi hynny, mae llwybrau dilyniant yn cynnwys:

  • Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau
  • Addysg uwch mewn ystod o ddisgyblaethau
  • Cyflogaeth yn y diwydiant gemau
  • Cyfleoedd gyrfa posibl yn y cyfryngau: Modelwr 3D, arlunydd gwead, artist cysyniad, artist arweiniol, artist rigio, animeiddiwr, artist goleuo a rendro, ysgrifennydd copi naratif, rheolwr cynnyrch, rheolwr/cynhyrchydd prosiect (gemau), profwr QA, artist technegol, cynhyrchydd cynorthwyol, peiriannydd sain, cyfarwyddwr creadigol, peiriannydd 'dev-ops', cynhyrchydd allanol, dylunydd gemau, datblygwr gemau, rhaglennydd gemau, artist gemau, rhaglennydd arweiniol, dylunydd lefelau, golygydd lefelau, animeiddiwr 3D / 2D, artist goleuo ac amgylchedd, peiriannydd sain, artist effeithiau gweledol

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Celf/Pwnc Creadigol/TGCh a naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFBE0017AB
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy