Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn addysgu dechreuwyr ynghylch sgiliau hanfodol barbro gan gynnwys technegau siswrn a chlipiwr; ac yn mynd i'r afael â thorri gwallt, siapio barf a thacluso'r wyneb.
... dechreuwyr llwyr sydd eisiau cyflwyniad i farbro
... trinwyr gwallt sydd eisiau datblygu eu sgiliau a thechnegau barbro
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall ffasiynau ymbincio dynion a'ch cyflwyno i ystod o dechnegau a gwasanaethau y mae barbwr cyfoes yn eu cynnig.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Technegau crib, siswrn a chlipiwr sylfaenol
- Gofalu am y cleient ac ymgynghori ag ef
- Gofalu am gyfarpar a’i ddefnyddio’n ddiogel
- Torri, trimio a steilio gwallt, barfau a mwstashis
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, dim ond diddordeb mewn dysgu sgiliau barbro.
Byddwch yn cael eich cynghori ynghylch prynu offer a blociau i ymarfer eich sgiliau yn ystod wythnos gyntaf y cwrs.
Wedi ichi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, os hoffech chi barhau i ddatblygu eich sgiliau, gallech symud ymlaen at gwrs Barbro NVQ Lefel 2.