Yn gryno
Mae’r Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth o fewn cyd-destun cyfrifeg ehangach. Mae’r pwnc hwn yn ymdrin â phynciau a thasgau cyfrifeg a chyllid ar lefel uchel.
Rydych chi’n prynu uned Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol sy’n rhan o gwrs AAT Lefel 4 Diploma mewn Cyfrifeg Broffesiynol.
Bydd yr uned hon yn eich galluogi chi i ddeall y broses gyllidebol. Bydd modd i chi greu cyllidebau a nodi ac adrodd ar y meysydd llwyddiannus a’r meysydd o bryder i randdeiliaid allweddol. Hefyd, byddwch chi’n ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer cynnal gwerthusiad beirniadol o berfformiad sefydliadol.
Byddwch chi’n dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau ar draws ystod o systemau a fydd yn helpu i wella amgylchedd rheolaeth y sefydliad. Bydd gwerthfawrogi bod nifer o ddulliau a deall sut a phryd mae’n briodol i’w defnyddio yn eich galluogi chi i gynghori busnes ar ystod o sefyllfaoedd.
Byddwch chi hefyd yn ennill gwerthfawrogiad o’r dulliau a ddefyddir i ymdrin â’r materion sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor. Mae’n hanfodol bwysig eich bod chi’n deall y gwahaniaeth rhwng yr heriau gwahanol a’r ansicrwydd rhwng y ddwy fath o wneud penderfyniadau. Trwy werthfawrogi ac ymgorffori’r gwahaniaethau hynny yn rhan o’r dadansoddiad a luniwyd, gall cyfrifydd rheolaeth ystyried ei hun yn rhan annatod o’r broses gwneud penderfyniadau.
Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).
Mae'r cwrs hwn yn symud ymlaen ymhellach o Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg a bydd yn eich galluogi i ennill sgiliau pellach i symud ymlaen o fewn y maes cyfrifeg.
... Ydych wedi cwblhau'r Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus ac eisiau parhau i feithrin eich sgiliau cyfrifyddu.
... Ydych chi am fynd ymlaen i ddod yn aelod llawn yr AAT a / neu fynd ymlaen i astudio am statws cyfrifydd siartredig.
... Ydych chi am gychwyn eich busnes eich hun drwy gynllun aelodau trwyddedig yr AAT.
Byddwch yn gwella'r sgiliau a ddatblygwyd gennych o Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg ac yn ennill sgiliau cyfrifyddu a chyllid proffesiynol gydol oes, gan eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich cyfleoedd yn eich gyrfa gyfrifyddu.
Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor.
- Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol – byddwch yn dysgu sut i weithredu prosesau cynllunio sefydliadol o fewn sefydliad, yn defnyddio prosesau mewnol i wella rheolaeth weithredol, a thechnegau i wneud penderfyniadau tymor byr a hirdymor.
- Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol – Byddwch yn dangos eich dealltwriaeth drwy werthuso rheolaethau mewnol a systemau cyfrifo o fewn sefydliad, ac yn gwneud argymhellion ar unrhyw wendidau a ddarganfyddwch.
Trwy gyflwyno cais yma, rydych chi’n prynu uned Cyfrifeg Rheolaeth Gymhwysol. Hefyd, bydd angen i chi brynu uned Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol ar gyfer Cwmnïau Cyfyngedig ac uned Systemau a Rheoliadau Cyfrifyddu Mewnol i gwblhau pob un o’r unedau craidd ar gyfer cymhwyster AAT Lefel 4.
Mae gan yr AAT Lefel 4 mewn Cyfrifeg dair uned orfodol:
- Rheoli Credyd a Dyled – Byddwch yn dysgu'r technegau i asesu risgiau credyd, credyd grantiau, sut i gasglu dyled oddi wrth gwsmeriaid, ac egwyddorion rheolaeth effeithiol mewn sefydliad.
- Arian a Rheolaeth Ariannol – Byddwch yn dysgu sut i baratoi rhagolygon ar gyfer derbyniadau a thaliadau arian parod, cyllidebau arian parod a monitro llifiau arian.
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 4 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn mae angen i chi fod wedi cwblhau Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg neu gyfwerth yn llwyddiannus.
Os nad ydych yn siwr ai dyma’r lefel gywir i chi, ewch i aat.org.uk lle gallwch gwblhau’r prawf AAT Skillcheck neu i helpu i sicrhau eich bod yn dechrau ar y lefel gywir.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, ac ar ôl bodloni meini prawf yr AAT, gallwch wneud cais am aelodaeth lawn o’r AAT, a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r llythrennau MAAT ar ôl eich enw.
Fodd bynnag, canlyniad sylfaenol a phwysicaf y Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yw y gall arwain at amrywiaeth eang o swyddi cyfrifeg a chyllid sy’n talu’n dda, y mae rhai ohonynt yn cynnwys:
- Technegydd Cyfrifyddu Proffesiyno
- Archwilydd Cynorthwyol
- Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyo
- Dadansoddwr Masnachol
- Rheolwr y Gyflogres
- Uwch Geidwad Llyfrau
- Uwch Swyddog Ariannol
- Goruchwyliwr Cyfrifon Taliadwy a Threuliau
- Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
- Cyfrifydd Costau
- Cyfrifydd Asedau Sefydlog
- Rheolwr Treth Anuniongyrchol
- Rheolwr Taliadau a Bilio
- Uwch Gyfrifydd y Gronfa
- Uwch Weinyddwr Ansolfedd
- Cyfrifydd TAW
Mae cwblhau'r cwrs hwn hefyd yn cynnig llwybr carlam i statws cyfrifydd siartredig gan y bydd AAT yn rhoi eithriadau hael i chi rhag holl gyrff siartredig ac ardystiedig y DU.
Costau eraill:
Llyfrau tua £30 y modiwl
Cofrestriad AAT (yn daladwy i’r AAT) £240