Yn gryno
Byddwch yn cael eich cyflwyno i sgiliausaernïaeth ac asiedyddynogystal â sgiliaupeintio ac addurno. Dysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa mewn gwaith saer neu asiedydd.
.. Mae gennych ddiddordeb brwd yn y diwydiannau adeiladu
... Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn crefftau adeiladug
.. Rhai sy’n mwynhau gwaith ymarferol ac yn gwerthfawrogi astudiaeth ddamcaniaethol
Mae'r cwrs yn ymdrin ag astudiaethau crefft-benodol, fel technegau uno pren (saernïaeth) a gwaith coed sylfaenol ar y safle ynghyd â sgiliau gosod brics sylfaenol.
- Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu
- Cynnal a chadw a defnyddio offer llaw gwaith coed a saernïaeth
- Paratoi a defnyddio offer pwer cludadwy gwaith coed a saernïaeth
- Cynhyrchu uniadau gwaith coed, gosod brics i greu waliau
- Iechyd, diogelwch a llesiant mewn adeiladu
Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ar-lein ac ysgrifenedig, ac ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Ar ôl cwblhau’r cwrs Sylfaen mewn Gwaith Saer ac Asiedydd, gallwch symud ymlaen i’r lefel nesaf i roi hwb pellach i’ch sgiliau neu fynd yn syth i gyflogaeth gan ddefnyddio’r sgiliau rydych wedi’u datblygu.
I gael lle ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol.
Bydd angen i chi ymgymryd ag asesiad diwydiant adeiladu er mwyn penderfynu ar y cwrs mwyaf priodol