Yn gryno
Os ydych yn barod i gychwyn hyfforddi fel nyrs milfeddygol bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gyrfa yn darparu gofal nyrsio i anifeiliaid gwael eu hiechyd. Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r cwrs, byddwch yn gymwys i gofrestru ar y rhestr nyrsys milfeddygol*.
...y rheiny sydd yn mwynhau gofalu am anifeiliaid
...unrhyw un sydd yn gweithio mewn milfeddygfa ar gyfer anifeiliaid bach
...hyfforddi fel nyrs milfeddygol
Mae'r cwrs wedi ei ddylunio i roi'r cyfle i chi ennill cymhwysedd nyrsio ymarferol clinigol yn seiliedig ar wybodaeth greiddiol am ymarfer nyrsio milfeddygol er mwyn datblygu eich gyrfa filfeddygol. Yna, gallwch ddod yn gymwys i gael eich cofrestru ar y rhestr nyrsys milfeddygol*. Bydd arbenigwyr yn y maes gofal anifeiliaid a nyrsio milfeddygol yn cynnal darlithoedd gwadd, a byddwch yn cymryd rhan mewn fforymau trafod a gwaith grwp.
Bydd angen i chi ymrwymo'n llwyr i fynychu'r coleg am un diwrnod yr wythnos am gyfnod o 36 wythnos y flwyddyn am 2 flynedd, ac i astudio yn ystod eich amser personol. Cewch eich asesu drwy:
- Beirnidaeth grwp
- Prosiectau
- Portffolio gwaith
- Cyflwyniadau
- Adroddiadau
- Arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig
Wedi cwblhau hyn, byddwch yn ennill Diploma Nyrsio Milfeddygol Lefel 3 LANTRA, ac yna byddwch yn gymwys i gofrestru fel nyrs milfeddygol*.
*Byddwch yn gymwys i ymuno â Chofrestr Nyrsys Milfeddygol Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) ac yn nyrs milfeddygol gwbl gymwys unwaith y byddwch wedi cwblhau'r Diploma Nyrsio Milfeddygol Lefel 3, log datblygiad nyrsio'r RCVS, arholiadau clinigol LANTRA sydd wedi eu strwythuro yn ôl amcanion, ac wedi cwblhau log o 1800 awr yn eich practis hyfforddi.
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) ac o leiaf un pwnc gwyddoniaeth.
Rydych hefyd angen bod yn gweithio mewn milfeddygfa ar gyfer anifeiliaid bach - os nad yw eich lleoliad chi yn Bractis Hyfforddi, byddwn yn gweithio gyda nhw i ennill statws Practis Hyfforddi.
Y ffioedd ar gyfer y cwrs hwn yw:
Blwyddyn 1 = £643 (yn cynnwys £325 Ffi Cofrestru Dysgwr a ffioedd ardystio diploma LANTRA, £228 Ffi Cofrestru Myfyriwr Nyrs Filfeddygol RCVS, £45 Ffi Arholiad MCQ Ar-lein Cais Cyntaf x 2)
Blwyddyn 2 = £485 (yn cynnwys £350 o Ffi OSCE, £45 Ffi Arholiad MCQ Ar-lein Cais Cyntaf x 3)
Codir tâl ar y Dysgwr am geisiadau dilynol am Ffi Arholiad MCQ Ar-lein (£45) a'r OSCE (£350) am bob ymgais.