91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Dysgu Agored/o Bell
  • Lefel 3

Agored NVQ Certificate in Advice and Guidance Level 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr
Sector
Hyfforddi, Asesu a Sicrhau Ansawdd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Dysgu Agored/o Bell
Lleoliad
Oddi ar y safle
Lefel
3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Yn gryno

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi i ddysgwyr y sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn ystod eang o rolau lle darperir gwybodaeth, cyngor neu arweiniad.

... unrhyw un sy'n darparu cyngor ac arweiniad mewn rôl broffesiynol neu wirfoddol.

... Unrhyw un sy'n gweithio yn y maes cynghori ar yrfaoedd, i undeb llafur, mewn ysgol, mewn tai, adnoddau dynol neu mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau rhoi cyngor ac arweiniad a rhoi arweiniad gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.
Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir ei fod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.

Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'i rôl alwedigaethol.

Mae Lefel 3 yn ddelfrydol os ydych wedi bod yn gweithio am beth amser mewn amgylchedd rhoi cyngor ar arweiniad a bod gennych lawer iawn o sgiliau technegol ynghyd â dealltwriaeth gadarn o gysyniadau a damcaniaethau. Rydych chi'n gweithio gyda’r mymryn lleiaf o oruchwyliaeth eu efallai y byddwch yn goruchwylio eraill.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn rôl cynghori a rhoi arweiniad.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd ar gyfer dau ddysgwr go iawn ar ddau achlysur mewn amgylchedd gwaith go iawn yn erbyn safonau/meini prawf cymeradwy felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn amgylchedd/lleoliad lle mae hynny'n bosibl.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys tua 6 neu 7 uned yn dibynnu ar opsiynau a ddewiswyd. Gall gymryd rhwng 6 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae'n bosib ei gwblhau'n gynt. Bydd dyfynbris ffurfiol yn cael ei baratoi unwaith y byddwn yn deall eich anghenion hyfforddi ond, fel canllaw, rydym yn codi £750 y pen ynghyd â ffioedd cofrestru cyrff dyfarnu ychwanegol (tua £165).

Oddi ar y safle

Côd y Cwrs
BCEM0030AA
Dull Astudio
Dysgu Agored/o Bell
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy