91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Rhan Amser

Diploma HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Tutor teaching
Maes Pwnc
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
22 Medi 2026
Dull Astudio
Rhan Amser
Ffioedd
£2355.00
£2355.00 Tuition Fees

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni about our payment plans.
Please note, all advertised fees are for one year only, unless otherwise stated in the additional information below.

Yn gryno

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i’r bobl hynny sydd eisiau cyfoethogi eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn adeiladu a datblygu o fewn y diwydiant. Bydd dysgwyr yn edrych ar adeiladu a chynnal a chadw, egwyddorion dylunio, dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, deunyddiau, gwyddoniaeth ac economeg. Mae’r pynciau hyn yn cynnwys datblygiad cynaliadwy o fewn y diwydiant adeiladu, ac yn darparu'r technegau a phrosesau diweddaraf mewn modiwlau graffig sy'n seiliedig ar brosiect.

... Rydych eisiau gyrfa ym maes arolygu, mesur meintiau, Peirianneg Sifil, Technoleg Saernïol a Rheoli Adeiladu ar lefel Tystysgri Cenedlaethol Uwch (HNC).

... Rhai sydd â diddordeb brwd mewn adeiladu

... Rydych eisiau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol

... Rydych yn gweithio'n dda o fewn astudiaethau ymarferol a damcaniaethol

Cyflwynir y cymhwyster gan Pearson (Edexcel), ac mae'n cael ei ddarparu gan weithwyr arbenigol y diwydiant yng Nghampws Dinas Casnewydd.

Ymhlith y modiwlau mae:

  • Egwyddorion Adnewyddu
  • Rheoli Ymarfer Adeiladwaith
  • Gwybodaeth am Adeiladwaith (yn cynnwys CAD)
  • Prosiect Unigol
  • BIM
  • Measur
  • Tendro
  • Amcangyfrif

Ymhlith y prosiectau cyfredol mae dylunio a rheoli gwaith adnewyddu gwirfoddol i adeiladau a dylunio a manylion cynnal a chadw preswyl a chymorth cymunedol.

Mae'r sesiynau yn gymysgedd o ddarlithoedd, stiwdios dylunio ac arbrofi ymarferol, yn seiliedig ar sefyllfaoedd prosiect go iawn a phroblemau efelychol.

Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni’r Diploma HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Gellir astudio cymhwyster sy'n gydnabyddedig o fewn y diwydiant Adeiladu, ac sy'n cael ei gydnabod yn broffesiynol gan ICE, ISE, CIAT, RICE, CIOB, CIBSE a CIPHE.

Mae llwybrau llawn amser, rhan amser neu brentisiaeth ar gael.

Er mwyn ymuno â’r cwrs hwn, bydd arnoch angen:

  • Trade experience with 1 year foundation Subsidiary diploma at level 3
  • 2 Lefel A neu gyfwerth,
  • BTEC Lefel 3 gyda Gradd Teilyngdod ac uwch
  • Derbynnir NVQs a Diplomâu Crefft gyda lefel briodol o brofiad
  • Cyfweliad gyda thiwtor i drafod sefyllfaoedd personol ac asesu’r lefel o brofiad a gyflawnwyd eisoes mewn maes cyffelyb.

Disgwylir i chi ymrwymo’n llawn i’ch astudiaethau a gallu parhau â’ch astudiaethau yn eich amser eich hun.

Y dilyniant naturiol o’r HNC yw cwblhau’r HND, sy’n cynnwys 8 modiwl pellach a gwblheir dros amserlen debyg o 1-2 flynedd. Mae yna opsiwn i gyflawni dau fodiwl yn ystod gwyliau’r haf rhwng yr HNC a’r HND er mwyn caniatáu hyblygrwydd pellach i chi yn eich amserlenni.

Mae llwybrau HNC yn cynnwys:

  • Peirianneg Sifil
  • Rheoli Adeiladu
  • Gwasanaethau Adeiladau
  • Tirfesur
  • Arolygu Technoleg Saernïol

Fel arall, gwneir cysylltiadau â phrifysgolion lleol a gellir cynnal trafodaethau i fynd ar drywydd graddau anrhydedd ar ôl cwblhau’r HNC yn llwyddiannus. Gellir gwneud yr un cynnig os ydych yn cwblhau’r HND.

  • 2 Lefel A neu gyfwerth,
  • neu radd Teilyngdod ac uwch mewn BTEC Lefel 3.
  • Derbynnir Diplomâu a NVQ Masnach gyda lefel briodol o brofiad.
  • Cyfweliad gyda thiwtor i drafod amgylchiadau personol, ac asesu'r lefel o brofiad sydd gennych eisoes mewn maes cyffelyb.

Byddwch yn elwa o gael mynediad i liniadur er mwyn ymgyfarwyddo â’r broses o Gynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.

Bydd angen i chi brynu pren mesur graddfa, pensiliau/ysgrifbinnau graffegol a deunydd ysgrifennu cyffredinol

Rydym yn cynnig yr HNC dros 1-2 flynedd, gydag 8 modiwl i’w cwblhau. Mae dyddiau astudio ar brynhawniau Mawrth ac Iau yn eich galluogi i gwblhau’r cwrs o fewn blwyddyn, ond gellir addasu ar gyfer sefyllfaoedd personoledig

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NPHC0037YO
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
15:30
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Dydd Mawrth

Fees: £2355.00

£2355.00 Tuition Fees

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod?

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy