Yn gryno
Mae’r arholiad hwn wedi’i ddylunio ar eich cyfer chi os ydych chi’n dymuno dangos gwybodaeth ar lefel sylfaenol am ddatrysiadau seiliedig ar y cwmwl i hwyluso cynhyrchiant a chydweithredu ymhlith gweithwyr ar y safle, gweithwyr o bell a gweithwyr hybryd. Fel ymgeisydd, efallai eich bod chi’n:
- Meddu ar wybodaeth am ddatrysiadau seiliedig ar y cwmwl.
- Newydd i Microsoft 365.
- Gallu defnyddio’r arholiad hwn i baratoi ar gyfer ardystiadau Microsoft eraill ond nid yw’n ofynnol ar gyfer y rhai cysylltiedig.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 1 diwrnod
Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:
- Cysyniadau Cwmwl
- Gwasanaethau Craidd Microsoft 365
- Diogelwch, Cydymffurfiaeth, Preifatrwydd ac Ymddiriedaeth
- Prisio a Chymorth Microsoft 365
Dim – Dylai ymgeiswyr feddu ar wybodaeth gyffredinol am rwydweithio, cyfrifiaduron a chysyniadau cwmwl
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol
- ymroddiad o amser sydd ei angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon
Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:
- unrhyw brofiad blaenorol o Microsoft 365
- unrhyw brofiad blaenorol o rolau Gweinyddiaeth TG neu Gymorth TG