91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Rhan Amser

Hanfodion Ardystiedig Microsoft 365

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r arholiad hwn wedi’i ddylunio ar eich cyfer chi os ydych chi’n dymuno dangos gwybodaeth ar lefel sylfaenol am ddatrysiadau seiliedig ar y cwmwl i hwyluso cynhyrchiant a chydweithredu ymhlith gweithwyr ar y safle, gweithwyr o bell a gweithwyr hybryd. Fel ymgeisydd, efallai eich bod chi’n:

  • Meddu ar wybodaeth am ddatrysiadau seiliedig ar y cwmwl.
  • Newydd i Microsoft 365.
  • Gallu defnyddio’r arholiad hwn i baratoi ar gyfer ardystiadau Microsoft eraill ond nid yw’n ofynnol ar gyfer y rhai cysylltiedig.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 1 diwrnod

Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:

  • Cysyniadau Cwmwl
  • Gwasanaethau Craidd Microsoft 365
  • Diogelwch, Cydymffurfiaeth, Preifatrwydd ac Ymddiriedaeth
  • Prisio a Chymorth Microsoft 365

Dim – Dylai ymgeiswyr feddu ar wybodaeth gyffredinol am rwydweithio, cyfrifiaduron a chysyniadau cwmwl

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol
  • ymroddiad o amser sydd ei angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • unrhyw brofiad blaenorol o Microsoft 365
  • unrhyw brofiad blaenorol o rolau Gweinyddiaeth TG neu Gymorth TG

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0185AA
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy