91Ïã½¶ÊÓÆµ

  • Rhan Amser

BCS Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Defnyddiwr TG (ICDL Uwch) (ITQ)

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r cymhwyster Lefel 3 hwn yn cynnwys sgiliau a rhaglenni defnyddiwr TG lefel uwch. Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch chi’n datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau defnyddiwr TG uwch angenrheidiol i weithio’n gynhyrchiol mewn swydd rheoli sy’n gofyn am ddefnydd arbenigol o raglenni meddalwedd TG cyffredin.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn.

… unrhyw un sy’n dymuno datblygu sgiliau a gwybodaeth defnyddiwr TG uwch.

… unrhyw un sy’n dymuno dysgu sgiliau ymarferol a sgiliau trosglwyddadwy i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn ei faes gwaith.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y cwrs: 15 diwrnod

Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:

Trwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu am y canlynol:

  • Meddalwedd Prosesydd Geiriau
  • Meddalwedd Taenlenni
  • Meddalwedd Cyflwyniadau
  • Meddalwedd Cronfa Ddata
  • Gwella Cynhyrchiant

Gallwch chi ddisgwyl datblygu sgiliau gan gynnwys:

  • Sut i ddefnyddio offer TG i wella cynhyrchiant a gweithio’n fwy effeithiol; megis defnyddio offer awtomataidd a nodweddion uwch rhaglenni meddalwedd.
  • Sut i wireddu potensial llawn meddalwedd taenlenni i gynhyrchu gwybodaeth reoli o safon uchel.
  • Sut i ddefnyddio nodweddion uwch meddalwedd prosesydd geiriau i wella gwaith, gwella cynhyrchiant ac arbed amser.
  • Sut i ddefnyddio nodweddion uwch i greu cyflwyniadau o safon uchel a dangos sgiliau cyflwyno arbenigol.
  • Sut i ddefnyddio offer uwch sydd ar gael o fewn meddalwedd cronfa ddata i drefnu a rheoli gwybodaeth.

Dim – fodd bynnag, disgwylir i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth dda iawn am raglenni Microsoft Office, sydd fel arfer yn cael eu cynnwys yn ICDL Lefel 2 neu gwrs cyfatebol.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0198AA
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy