91Ïã½¶ÊÓÆµ

Oedolion a Gweithwyr Proffesiynol

Cyflawnwch eich nodau yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ

Ydych chi am newid gyrfa, ennill dyrchafiad, dychwelyd i'r gwaith, dechrau eich busnes eich hun neu ddatblygu sgil newydd? Beth bynnag eich nodau, gallwch gyflawni rhywbeth anhygoel gyda'n cyrsiau dysgu i oedolion, sy'n cynnwys cyrsiau newid gyrfa, Mynediad i Addysg Uwch a Phrentisiaethau.

Gyda channoedd o gyrsiau i ddewis o'u plith, bob blwyddyn rydym yn helpu miloedd o ddysgwyr i gymryd eu cam nesaf - p'un a yw hynny'n sicrhau lle yn y brifysgol drwy gwrs Addysg Uwch, ennill swydd ddelfrydol, cyflawni cymhwyster proffesiynol neu dim ond dysgu er boddhad personol.

Dysgu hyblyg i gyd-fynd â'ch bywyd

Rydym yn deall pa mor brysur yw bywyd, a dyna’r rheswm y cynlluniwyd ein hystod o gyrsiau i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau. P'un a yw'n ddiffyg amser, cyfyngiadau ariannol, materion gofal plant neu nerfusrwydd - rydym ni wrth law i'ch cefnogi chi.

Gyda phum campws a leolir ledled y rhanbarth, rydym yn cynnig cyfleoedd hygyrch ar gyfer dysgwyr yn ein cymunedau lleol, gan gynnwys Cyrsiau Nos a Chyrsiau Rhan-amser.

Dod o hyd i’r cwrs iawn i chi

Mae astudio rhan-amser yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ yn golygu dysgu yng ngholeg gorau Cymru o ran dewis. Archwiliwch ein hamrywiaeth eang o feysydd pwnc i ddod o hyd i gyrsiau sy'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau. Mae rhai cyrsiau ond ar gael ar gampysau penodol, felly cofiwch wirio'r manylion ar bob tudalen gwrs.

Ariannu'ch dyfodol

Ydych chi'n poeni am ffioedd cwrs? Mae yna sawl ffordd y gallwch gael cymorth gyda chostau astudio, gyda nifer o wahanol grantiau ar gael gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, yn ogystal â chyrsiau am ddim ar gyfer oedolion. Mae opsiynau yn cynnwys:

  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) (AB)
  • Cronfa Ariannol wrth Gefn (Financial Contingency Fund - FCF)
  • Cronfa wrth gefn Barclays Family Action
  • Cyllid ReAct+
  • Cronfa Cymorth Dewisol (Discretionary Assistance Fund - DAF) Cymru
  • Gwobr Datblygu Ymddiriedolaeth y Brenin (Ymddiriedolaeth y Tywysog gynt)
  • Cyfrifon Dysgu Personol
  • Bwrsariaethau Addusg Uwch
Mature student smiling

Mae'r cwrs Mynediad i AU – Meddygaeth wedi bod yn borth perffaith i mi. Mae'r fformatau asesu wedi fy mharatoi ar gyfer y brifysgol, ac mae fy hyder wedi tyfu'n aruthrol!

Livia, Mynediad i Addysg Uwch

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy