91Ïã½¶ÊÓÆµ

Sut i Wneud Cais
Prentisiaethau

Apprentice working on a race car

Sut i wneud cais ar gyfer prentisiaeth mewn 5 cam hawdd

Sut i wneud cais ar gyfer prentisiaeth mewn 5 cam hawdd

Cymhwystra

Cyn ymgeisio

Mae rhaglen brentisiaethau Cymru ar gael i'r rhai sydd:
• Yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn
• Yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos
• Ddim yn addysg lawn-amser

Mae prentisiaethau'n llawn gyflogedig, sy'n golygu nad oes yna gost i chi a'ch cyflogwr.

I fod yn gymwys:
• Ar gyfer prentisiaeth Lefel 2, rhaid i chi fod wedi dal eich swydd am lai na 6 mis pan fyddwch yn cychwyn arni.
• Ar gyfer prentisiaeth Lefel 3 neu 4, rhaid i chi fod wedi dal eich swydd am lai na 12 mis pan fyddwch yn cychwyn arni.

students smiling
Cam 1

Cwblhau ffurflen gais

Unwaith eich bod wedi cadarnhau cyflogaeth ac wedi dod o hyd i brentisiaeth sydd o ddiddordeb i chi, mae'r broses ymgeisio'n sydyn ac yn hawdd.

Cyn dechrau, sicrhewch fod gennych:
• Enw a chyfeiriad cwmni eich cyflogwr
• Enw cyswllt
• Ei rif ffôn a chyfeiriad e-bost
• Dyddiad dechrau arfaethedig

Gallwch wneud cais am un brentisiaeth ar y tro, felly dewiswch yr un sy'n cyd-fynd â'ch swydd orau a chlicio ar ymgeisio.

Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost personol i ni allu cadw mewn cysylltiad, a gwnewch yn siŵr bod manylion eich cyflogwr gennych. Llenwch bob adran a chlicio ar cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen — mae'n cymryd rhai eiliadau yn unig.

Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch drwy e-bostio apprenticeships@coleggwent.ac.uk.

student services smiling
Cam 2

Cynnig Amodol

Byddwn yn adolygu eich cais a chysylltu â chi a'ch cyflogwr. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf mynediad a'ch bod yn gymwys am brentisiaeth, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chynnig amodol.

Student Smiling
Cam 3

Derbyn eich cynnig

Bydd eich neges yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i dderbyn eich lle.

Mewngofnodwch i Porth CG a dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost gyda'ch cynnig er mwyn cadarnhau eich lle.

Student on PC
Cam 4

Mynychu cofrestru

Mae cyfnod cofrestru fel arfer yn cymryd lle yn ystod pythefnos olaf mis Awst.

Byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'ch dyddiad ac amser cofrestru – gwnewch ymdrech i fynychu bryd yma i gadarnhau eich lle.

Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtoriaid, dysgu am eich dosbarthiadau cyntaf, a dysgu sut i gael mynediad at eich amserlen. Mae hefyd yn gyfle gwych i ddod yn gyfarwydd â'r campws, cwrdd â phrentisiaethau eraill a theimlo'n barod at fis Medi.

Students talking to each other
Cam 5

Dechrau eich prentisiaeth

Mae coleg yn dechrau'n gynnar mis Medi. Byddwch yn cael e-bost i'ch mewnflwch coleg gyda'ch dyddiad dechrau a manylion am sut i weld eich amserlen drwy ap CG Connect.

Gall amserlenni gymryd rhai diwrnodau i ymddangos yn CG Connect ar ôl cofrestru, a gallent newid hyd at y diwrnod olaf cyn y tymor, felly gwiriwch yr ap yn rheolaidd am ddiweddariadau.

DS: Nid oes angen i brentisiaid Lletygarwch ac Arlwyo fynychu'r coleg wyneb yn wyneb, felly mae modd dechrau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

students at college smiling outside
Apprentice and tutor in a spray booth

Camau Nesaf

Os oes gennych chi neu’ch cyflogwr unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i ddod o hyd i’r rhaglen gywir, cysylltwch â’n Tîm Prentisiaethau:

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy