91Ïã½¶ÊÓÆµ

Cymhwystra i Gael Cymorth Ariannol Addysg Uwch

Student smiling

Bydd eich cymhwystra i gael cymorth ariannol yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw, a ydych wedi astudio cwrs Addysg Uwch a chael cymorth o’r blaen, a’r math o gwrs yr ydych yn ei ddilyn.

Students in the HE Hub

1. Ble yr ydych yn byw

Rhaid i fyfyrwyr fod naill ai’n wladolion y DU neu fod â ‘statws preswylwyr sefydlog’. Dylech fyw fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs a bod wedi byw yn y DU am o leiaf 3 blynedd cyn hynny, nid at ddibenion addysg lawn amser. Dim ond ar gyfer cymorth ffioedd dysgu y mae Myfyrwyr Ewropeaidd yn gymwys ac ni allant gael costau byw, grantiau dibynyddion neu gymorth DSA. I gael rhagor o fanylion, gweler gwefan .

Three students sat around a laptop

2. Cymhwystra Personol

Os oes gennych radd yn barod ni fyddwch yn gymwys, ac eithrio myfyrwyr sydd eisiau astudio TAR yn rhan amser.

Rhaid i’r cwrs arwain at gwrs Addysg Uwch cydnabyddedig e.e. Gradd, Gradd Sylfaen, Tystysgrif neu Ddiploma Addysg Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch, neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion.

91Ïã½¶ÊÓÆµ staff member smiling

Beth ddylwn i wneud nesaf? Sut i wneud cais

Rhaid cyflwyno pob cais trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gallwch naill ai wneud cais ar-lein neu lawrlwytho ffurflen gais pan fydd y system yn agor ar gyfer ceisiadau rhan amser – fel arfer oddeutu Mai/Mehefin.