Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cipolwg eang ond cysylltiol ar Ffiseg
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn gallu cymell eich hun
... Ydych yn anelu at ddatblygu'ch addysg yn y brifysgol
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddoniaeth
Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu i 5 uned. Bydd y 2 uned gyntaf yn cael eu hastudio ym mlwyddyn 1 ac yn arwain at gymhwyster UG.
Blwyddyn 1 - Lefel UG
- Uned 1: Mudiant, egni a mater
- Uned 2: Trydan a goleuni
Blwyddyn 2 - Lefel A
- Uned 3: Osgiliadau a niwclei
- Uned 4: Meysydd ac opsiynau
- Uned 5: Arholiad ymarferol
Er y bydd nifer o'r pynciau ym mhob modiwl wedi'u cyflwyno ar lefel TGAU, cânt eu hadolygu'n drylwyr cyn cael eu hymestyn i safon Lefel A llawn. Mae'r fanyleb Ffiseg bellach yn cynnwys ffiseg gronynnau, laserau ac astroffiseg.
Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Ffiseg Lefel UG
- Ffiseg Lefel U
- Gweithgareddau sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, Gradd B neu uwch mewn Mathemateg, Gradd B neu uwch mewn Ffiseg neu BB neu uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol
Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Derbynnir Ffiseg Lefel A fel cymhwyster mynediad i ystod annisgwyl o eang o gyrsiau gradd prifysgol, o gyfrifeg i wyddor filfeddygol yn ogystal â'r cyrsiau amlycach sy'n seiliedig ar ffiseg, megis acwsteg, seryddiaeth, peirianneg (sifil, trydanol, electronig, mecanyddol, cynhyrchu etc.) ac opteg lygadol.
Mae hefyd yn eich paratoi chi at gyflogaeth mewn ystod eang o feysydd.
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, gradd B neu uwch mewn Mathemateg, gradd B neu uwch mewn Ffiseg neu BB neu uwch mewn Gwyddoniaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol.