91香蕉视频

  • Llawn Amser
  • Lefel 3

CBAC Drama ac Astudiaethau'r Theatr UG Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Lefelau A
Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn lluosog
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae Drama ac Astudiaethau'r Theatr ar gyfer myfyrwyr sy'n mwynhau darllen a gwylio dram芒u, yn ogystal 芒 chymryd rhan ynddynt, boed hynny'n perfformio, cyfarwyddo neu ddylunio setiau a gwisgoedd.

...ydych yn frwdfrydig am y theatr

...ydych eisiau rhaglen astudio ymarferol a damcaniaethol

...ydych yn greadigol a gyda diddordeb mewn dilyn Llwybr y Celfyddydau Creadigol, y Llwybr Dylunio a'r Cyfryngau, y Llwybr Saesneg ac Ysgrifennu

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y rhyddid i fyfyrwyr ddewis cynnwys a ffurf eu cyflwyniadau ymarferol. Byddwch yn astudio cyfanswm o 4 uned:

UG Uned 1: Gweithdy Theatr

Asesiad heb arholiad: asesiad mewnol sy'n cael ei safoni鈥檔 allanol, 24% o'r cymhwyster. Cewch eich asesu ar naill ai actio neu ddylunio a chymryd rhan wrth greu, datblygu neu berfformio darn o theatr.

Rhaid i chi gynhyrchu:

  • Sylweddiad o'r perfformiad neu ddyluniad
  • Cofnod creadigol
  • Gwerthusiad

UG Uned 2: Arholiad Ysgrifenedig Testun mewn Theatr: 1 awr 30 munud

16% o'r cymhwyster. Llyfr agored: Cyfres o gwestiynau sy'n seiliedig ar A View from the Bridge gan Arthur Miller.

Safon Uwch (yr uchod yn ogystal 芒 2 uned arall)

A2 Uned 3: Testun ar Waith

Asesiad heb arholiad, sy'n cael ei asesu'n allanol gan arholwr gwadd, 36% o'r cymhwyster. Byddwch yn creu, datblygu a pherfformio fel naill ai actor neu ddylunydd:

  • Darn wedi'i ddyfeisio gan ddefnyddio'r technegau a dulliau gweithio naill ai ymarferydd theatr dylanwadol neu gwmni theatr cydnabyddedig
  • Detholiad o'r testun mewn arddull gwahanol a ddewisir gennych chi

Byddwch yn cyflwyno'ch perfformiad yn fyw i arholwr gwadd. I'r rheiny sy'n dewis dylunio, byddwch yn rhoi cyflwyniad 5-10 munud, nad yw'n cael ei asesu, o'ch dyluniad i'r arholwr. Rhaid i chi gynhyrchu adroddiad proses a gwerthuso cyn pen wythnos o gwblhau'r gwaith ymarferol.

A2 Uned 4: Testun mewn Perfformiad - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud

24% o'r cymhwyster. Llyfr agored: Dau gwestiwn yn seiliedig ar ddau destun gwahanol: A Day in the Death of Joe Egg gan Peter Nichols neu The Radicalisation of Bradley Manning gan Tim Price a Sweeney Todd gan Stephen Sondheim. Byddwch yn barod i fynd ar sawl ymweliad 芒'r theatr trwy gydol y cwrs.

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:

  • Drama ac Astudiaethau'r Theatr Lefel UG
  • Drama ac Astudiaethau'r Theatr Safon Uwch

I gael lle ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU arnoch. Gradd C neu uwch, i gynnwys Mathemateg/Mathemateg Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf

Mae gradd B mewn Saesneg yn ddymunol i astudio Drama UG. Gellir ystyried cyflawniadau pwnc amgen os nad oes gennych radd 鈥淏鈥. Siaradwch ag un o'n cynghorwyr.

Gall myfyrwyr fynd ymlaen i Addysg Uwch neu yrfa yn y Celfyddydau Perfformio.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Bydd angen i chi gyfrannu at gostau tripiau ac ymweliadau a bydd angen i chi brynu testunau argymelledig.

Tutor and student sharing exam results

Parth Dysgu Torfaen

C么d y Cwrs
PFAS0174A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Crosskeys

C么d y Cwrs
CFAS0174A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Blaenau Gwent

C么d y Cwrs
EFAS0174A1
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy