Yn gryno
Mae angen ar ddiwydiant gweithgynhyrchu modern weithlu sy’n gallu defnyddio’r deunyddiau cyfansawdd diweddaraf, peiriannau wedi’u hawtomeiddio gan gyfrifiadur cyfoes, a thechnegau argraffu 3D. Bydd y cwrs BTEC Diploma Estynedig hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi er mwyn bod ar flaen y gad yn y diwydiant hwn sy’n newid yn gyflym. Mae’n gyfwerth â 3 chymhwyster Safon Uwch.
... os hoffech chi yrfa mewn peirianneg weithgynhyrchu fodern
... os hoffech chi weithio gyda phrosesau gweithgynhyrchu cyfoes
... os ydych chi’n dwlu ar weld syniadau am gynnyrch newydd yn cael eu gwireddu
Caiff y cwrs ei asesu drwy ystod o weithgareddau ymarferol yn y gweithdy, aseiniadau a phrofion ar-lein allanol.
Drwy astudio'r cwrs hwn byddwch yn:
- Datblygu'r egwyddorion mathemategol, trydanol a mecanyddol sylfaenol sy'n ofynnol gan y diwydiant.
- Dysgu am y diwydiant a’r disgwyliadau o weithio yn y maes gweithgynhyrchu.
- Cwblhau tasgau ymarferol mewn gweithdai â chyfarpar da, gan gynnwys defnyddio peiriannau modern a reolir gan gyfrifiaduron, peiriannau argraffu 3D a pheiriannau sganio.
- Dysgu sut i ddatblygu eich syniadau am gynhyrchion drwy ddefnyddio technegau dylunio a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur.
Yn yr ail flwyddyn bydd modd cyfuno’r holl sgiliau mewn prosiect sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn ennill:
- Diploma Estynedig BTEC mewn Peirianneg (Gweithgynhyrchu Uwch)
UNEDAU GORFODOL (BLWYDDYN 1)
Uned 1: Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg
Uned 2: Cyfathrebu ar gyfer Technegwyr Peirianneg
Uned 3: Mathemateg ar gyfer Technegwyr Peirianneg
UNEDAU DEWISOL (BLWYDDYN 1)
ned 7: Priodweddau a Chymwysiadau Deunyddiau Peirianneg
Uned 8: Egwyddorion Mecanyddol
Uned 13: Drafftio â Chymorth Cyfrifiadur yn y maes Peirianneg
Uned 19: Dewis a Defnyddio Rheolyddion Rhaglenadwy
Uned 121: Roboteg Ddiwydiannol
Uned 108: Diwydiant 4.0
UNEDAU GORFODOL (BLWYDDYN 2)
Uned 4: Prosiect Peirianneg
UNEDAU DEWISOL (BLWYDDYN 2)
Uned 6: Mathemateg Peirianneg Bellach
Uned 37: Rheoli Gweithiau a Phrosesau Diwydiannol
Uned 109: Dadansoddi Data / Data Mawr
Uned 110: Efelychu a Gefeillio Digidol
Uned 111: Seiberddiogewch yn y maes Peirianneg
Uned 112: Prosesau Gweithgynhyrchu Ychwanegion
Uned 113: Systemau Ymreolaethol
I gofrestru, bydd angen:
- 5 TGAU gradd A* i C. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gradd B mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Gwyddoniaeth ac Iaith Saesneg (neu Gymraeg fel iaith gyntaf)
neu
- Gymhwyster Lefel 2 perthnasol a gradd B ar gyfer TGAU Mathemateg
Hefyd, rhoddir ystyriaeth i fyfyrwyr hyn nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod yn llawn ond maent yn meddu ar brofiad perthnasol. Bydd hyn yn cael ei benderfynu trwy gynnal trafodaeth ag arweinydd y cwrs.
Ar gwblhau’r cwrs, gallech chi symud i:
- Addysg Uwch megis cwrs HNC/D neu gwrs gradd yn 91Ïã½¶ÊÓÆµ
- Prentisiaeth yn niwydiant gweithgynhyrchu / peirianneg
- Byd gwaith
- 5 TGAU gradd A* i C. Mae’n rhaid i hyn gynnwys gradd B mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Gwyddoniaeth ac Iaith Saesneg (neu Gymraeg fel iaith gyntaf)
neu
- Gymhwyster Lefel 2 perthnasol a gradd B ar gyfer TGAU Mathemateg