Yn gryno
Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd cynnydd amrywiol, yn cynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o’n cyrsiau ‘lefel nesaf’, prentisiaeth neu waith.
.... Ydych yn ansicr ynglyn â'r hyn yr ydych eisiau ei wneud
Bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd cynnydd amrywiol, yn cynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o’n cyrsiau ‘lefel nesaf’, prentisiaeth neu waith.
... ydych eisiau cael cipolwg ar fywyd yn y coleg
Bwriad ein cyrsiau Astudio Galwedigaethol yw eich cyflwyno i’r maes astudio y mae gennych ddiddordeb ynddo a’ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy ac yn cwblhau tasgau sy’n canolbwyntio ar ddangos yr hyn y gallwch ei wneud a’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu.
Mae’r unedau craidd yr un fath ar gyfer pob cwrs Astudio Galwedigaethol, a bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn y maes galwedigaethol yr ydych wedi’i ddewis. Os byddwch angen newid i gwrs gwahanol, pe bai angen gallwch drosglwyddo’r unedau yr ydych wedi’u hastudio ar y cwrs hwn i’r cwrs nesaf.
Dyma’r unedau craidd:
- Bod yn drefnus
- Creu cynllun datblygu
- Gweithio gydag eraill
- Ymchwilio i bwnc
Gall yr unedau TGCh gynnwys:
- Creu bwrdd darlunio sy’n dangos pob cam o’r broses
- Dylunio cyflwyniad rhyngweithiol
- Creu animeiddiad
- Ffilmio ffilm fer
- Datblygu gwybodaeth ddigidol trwy ddefnyddio TG
- Defnyddio technolegau cyfathrebu digidol
- Creu taenlen i ddatrys problemau
- Creu gwefan
Gall Unedau Busnes gynnwys:
- Cynllunio Digwyddiad
- Cofnodi Incwm a Gwariant
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol, a byddwch yn ennill:
- Diploma BTEC Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.
Bydd angen ichi fod yn llawn cymhelliant, yn ddiwyd a bod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd yn y meysydd galwedigaethol. Bydd disgwyl ichi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg, gan eich galluogi i adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae mynychu’r holl sesiynau, ynghyd â bod yn brydlon ar gyfer pob un, yn gwbl angenrheidiol ar gyfer y cwrs hwn.
- Gallech barhau eich astudiaethau ar Lefel 2 mewn maes galwedigaethol o’ch dewis
- Gallech fynd yn eich blaen i ddilyn prentisiaeth
- Gallech gael swydd yn eich dewis faes
Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol. Fodd bynnag, mae diddordeb mewn dysgu am y gwahanol feysydd galwedigaethol yn angenrheidiol.
Bydd disgwyl ichi brynu offer er mwyn sicrhau eich diogelwch wrth fynd i’r afael â’r elfennau ymarferol. Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn, ar gyfer ymweliadau addysgol.