Yn gryno
Mae hwn yn gwrs hwyliog a chreadigol sy'n cynnig cyfle i chi archwilio, datblygu, dylunio, addurno a gwneud eich serameg greadigol eich hun.
... Rhywun sydd â diddordeb brwd mewn serameg.
... Dechreuwr llwyr (dosbarth dydd Mercher) neu ganolradd (dosbarth dydd Mawrth).
... Rhywun sydd â phrofiad ac eisiau ehangu eu sgiliau.
Bob wythnos, byddwch yn cael cyfle i ehangu eich profiad o waith serameg drwy roi cynnig ar ystod o dechnegau fel adeiladu â llaw, taflu, castio slip, mowldio gwasg a gwydr. Byddwch yn datblygu eich sgiliau drwy arddangosiadau a chyfarwyddyd.
Bydd y grŵp ar ddydd Mawrth yn gweithio ar dechnegau adeiladu â llaw, addurno, mowldio gwasg a gwydr. Mae hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau.
Bydd grŵp dydd Mercher yn gweithio ar dechnegau adeiladu â llaw sylfaenol ac addurno, yn ogystal â chael cyfle i roi cynnig ar daflu ar yr olwyn. Mae'n addas i ddysgwyr llwyr a hoffai gael blas ar wahanol dechnegau serameg.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu datblygu a’u meithrin, er mwyn mynd â'ch diddordeb mewn serameg ymhellach. Bydd gennych hefyd gasgliad o ddarnau ar gyfer eich portffolio, a gallwch fynd â nhw adref gyda chi.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.
Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:
- Tecstilau
- Cerameg
- Gwneud Printiau
- Ffotograffiaeth
- Argraffu 3D
- Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
- Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
- Celfyddydau Perfformio
- Canu ar gyfer Pleser
- Ysgrifennu Creadigol
- Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
- Gwneud Gemwaith
- Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
- Lansio Menter/Busnes Creadigol
Darperir yr holl offer yn ystod y cwrs hwn.