Yn gryno
Yn gryno Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu ystod o dechnegau peintio ac addurno ar lefel ganolradd.
Ydych eisoes wedi cyflawni’r Diploma Lefel 1 mewn Peintio ac Addurno
Hoffech ychwanegu at eich gwybodaeth a’ch sgiliau
... Ydych yn mwynhau astudio drwy ddysgu ymarferol
Byddwch yn datblygu’r arbenigedd i weithio yn annibynnol a sefydlu amgyffred cadarn o effeithiau addurniadol uwch. Mae’n cwmpasu’r sgiliau canlynol:
- Gosod a datgymalu offer mynediad a llwyfannau gwaith
- Paratoi arwynebau ar gyfer addurno
- Taenu systemau paent gyda brwsh a rholer
- Taenu sylfaen a phapurau plaen
- ynhyrchu caboliadau addurniadol arbenigol
- Taenu a chreu lliw
Cyflwynir y cwrs trwy sesiynau ymarferol mewn cyfleusterau gweithdy rhagorol a gwersi theori i danategu'r wybodaeth a ddysgwyd yn y sesiynau ymarferol.
Cewch eich asesu drwy brosiectau ymarferol, profion ysgrifenedig ac ar-lein a byddwch yn cyflawni’r cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Diploma mewn Peintio ac Addurno
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Er mwyn ymuno â’r cwrs, mae angen Diploma Lefel 1 mewn Peintio ac Addurno arnoch a naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.
Mae’n rhaid i chi fod eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae’n rhaid cael ymrwymiad llawn i bresenoldeb, ynghyd â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunangymhelliant. Cewch eich asesu yn barhaus a disgwylir i chi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.
Diploma Lefel 3 mewn Peintio ac Addurno, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Er mwyn ymuno â’r cwrs, mae angen Diploma Lefel 1 mewn Peintio ac Addurno arnoch a naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.